THE latest community news from Trefor

Y Sul

NI fydd Ysgol Sul i’r plant am 10.30yb, oedolion i holi; 5.30yh, y Parch Gwyndaf Jones, Bangor.

Clwb Gwau

BYDD y clwb yn cyfarfod brynhawn Llun, 6 Tachwedd, am 2yp. Croeso i aelodau hen a newydd.

Bocsys sgidiau

MAE Ysgol yr Eifl ac Eglwys Maesyneuadd yn casglu bocsys sgidiau llawn anrhegion ar gyfer plant a theuluoedd yn nwyrain Ewrop.

Bydd angen y bocsys i mewn erbyn dydd Mercher, 15 Tachwedd.

Taflenni ym Maesyneuadd neu gan Siân, Tir Du (ffôn 660340 neu ebost [email protected]).

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]