THE latest community news from Tregaron
Capel Bwlchgwynt
Ni fydd oedfa ym Mwlchgwynt ddydd Sul, 23 Medi.
Cynhelir Taith Gerdded flynyddol Gofalaeth Caron a’r Cylch am 2yp. Bydd y daith eleni yn dechrau o fferm Alltddu a dilyn llwybr Ystwyth lan i Ystrad Meurig.
Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â’r daith, neu i noddi’r cerddwyr. Bydd yr elw yn mynd tuag at brosiect ‘Cadwyn Teifi’.
Bydd ceir ar gael ym maes parcio’r capel am 1.45yp i gludo unrhyw un sy’n dymuno mynd ar y daith.
Oedfa Deuluol
Ar ôl toriad dros yr haf estynnwyd croeso cynnes i bawb i’r Oedfa Deuluol gan y Parch Carwyn Arthur.
Rhoddwyd yr emynau allan gan Mari Williams, Osian Jones, Iago Evans ac Elin Williams a darllenwyd gan Gethin a Dafydd Bennett. Casglwyd gan Lois Davies a Gwilym Jones a chyfeiliwyd gan Nerys Bennett.
Adar oedd thema’r gwasanaeth, a chafwyd cwis gan y gweinidog gyda chymorth Zara Evans, a bu cryn ddyfalu i adnabod lleisiau’r adar.
Rhannwyd bocsys Samaritans Purse, Christmas Child. Fel llynedd dyma gyfle i’r aelodau a phlant gyfrannu anrhegion Nadolig i blant mewn angen, a chesglir y bocsys yn ôl yn yr Oedfa Deuluol ym mis Hydref.
English Methodist Chruch
The service on Sunday, 23 September will be led by the Rev Roger Hides in the Memorial Hall, beginning at 2.30pm.
A warm welcome to everyone.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.