THE latest community news from Tregaron

English Methodist Church

THE service on Sunday, 25 November, will be held in the memorial hall, beginning at 2.30pm and led by Lavina Porter.

Clwb Cerdded/Walking Club

THE next walk is scheduled for 26 December and has been organised by Dafydd Wyn Morgan, 07748 675798.

‘Tackle the Turkey trek’ – This is one of the club’s annual walks that brings people of all ages together for a festive footpath foray during the Christmas period.

This was the club’s first walk back in 2003 that attracted 90 walkers on that cold day.

Make the most of the opportunity to meet new and old friends whilst taking in the great views the walk affords. The faithful toy turkey Terwyn will join too, the last turkey to be sold by Woolworths in December 2008.

The meeting point is outside Y Talbot at 10.30am. The walk is to last approximately three hours and is graded a moderate walk which covers five miles with an ascent of 1,240ft/380m.

Red Kite Centre

THE annual whist drive will be held on Wednesday, 28 November at 8pm.

Cymdeithas Hanes

BYDD ein cyfarfod nesaf ar nos Iau, 29 Tachwedd yn Festri Bwlchgwynt am 7.30yh pan fydd Arwel Jones yn sôn am y Cymry a ymfudodd o Geredigion i Ohio.

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR oedfa dydd Sul, 25 Tachwedd am 10yb dan ofal Beti Griffiths.

Ffair Nadolig

FFAIR Nadolig Bwlchgwynt dydd Sadwrn, 24 Tachwedd rhwng 2yp a 4yp yn y Neuadd Goffa.

Y Gymdeithas

GWYNETH Davies fydd yng ngofal y noson Nadoligaidd ar nos Fawrth, 4 Rhagfyr am 7.30yh yn y festri.

Merched y Wawr

ESTYNNWYD croeso cynnes i’r aelodau i’r Neuadd Goffa ar nos Fercher, 7 Tachwedd gan Manon Wyn James, y llywydd. Diolchodd i’r aelodau a fu’n cynnal gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghanolfan Bryntirion. Dymunodd yn dda i’r tri tîm oedd yn cystadlu yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yng Ngwesty’r Tyglyn Aeron.

Ar ôl trafod rhai materion, aeth ymlaen i groesawu a chyflwyno Y Pic Tôns, sef criw o ddisgyblion Ysgol Henry Richard a’u hathrawon Enfys Hatcher Davies ac Iwan Davies. Iwan ddechreuodd y diddordeb i chwarae’r iwcalili yn yr ysgol, ac fe ddysgodd ei hun i chwarae cyn mynd ymlaen i ddysgu’r disgyblion a staff. Gwahoddwyd nhw i’w gig gyntaf yn TREGAROC ddwy flynedd yn ôl, ac maent wedi bod allan yn diddori llawer iawn ers hynny. Buont yn canu i gyfeiliant yr iwcalili ac mae’n amlwg eu bod wrth eu bodd yn perfformio.

Cafodd yr aelodau ddim llawer o amser i ymlacio cyn i’r athrawon roi gwers iddynt i chwarae’r offeryn, a bu Enfys, Iwan a’r merched yn brysur iawn yn ein hyfforddi!

Roedd yna ganolbwyntio mawr a chafwyd llawer o chwerthin wrth drio’r gwahanol gordiau!

Diolchodd Ffion Medi Lewis-Hughes i’r merched a’r athrawon am roi o’u hamser ac am eu parodrwydd i fynd allan gyda’r nos i ddiddanu! Diolchwyd yn ogystal i aelodau’r Pentre am baratoi paned a bisgedi ar y diwedd. Rhoddwyd y wobr raffl gan Ann Jones ac fe’i henillwyd gan Nerys Bennett.

Ar nos Fercher, 5 Rhagfyr, cynhelir noson o goginio yng nghwmni Eleri Hughes a Helen McAnulty am 7.30yh yn y Neuadd Goffa.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]