THE latest community news from Tregaron
Clwb Cerdded/Walking Club
THE next walk is scheduled for 9 March and has been organised by Ian Tillotson (01974 831639) and Rob Davies (07852 946647). The walk is called ‘Discover Dark Skies’. The area to the east of the Teifi Pools is an internationally recognised Dark Sky Park. It’s the only one in Wales. The walk starts at dusk from Ty’n Cwm and ascends to Teifi Pools and Claerddu bothy. They aim to arrive there as darkness falls, then spend time star gazing (weather permitting). An expert will help interpret what we can see. Return by the same route. Remember your head torch (with spare batteries) and binos or telescope. Extra clothing whilst star gazing advised. The walk is to last approximately four hours and is graded a moderate walk over a distance of 6.4 miles, with an ascent of 300m/1,000ft. Meet outside the Talbot Hotel at 7pm or Ty’n Cwm (GR SN 769655) at 7.30pm. To become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club give Dafydd the secretary a ring on 01974 298150.
Y Gymdeithas
NOS Fawrth, 5 Chwefror, cynhaliwyd noson gan y Gymdeithas a chroesawyd pawb i’r festri gan Ifan Gruffydd. Estynnwyd croeso arbennig i’r g?r gwadd sef Wyn Gruffydd. Braf oedd ei groesawu i Dregaron lle bu ei dad a’i fam sef y diweddar Barch W J a Mrs Gruffydd yn byw am flynyddoedd ac yn fawr eu parch yn y gymuned. Bu’n noson ddiddorol gyda Ifan yn holi’r gwestai a chafwyd atebion diddorol a difyr ganddo yn crynhoi llawer iawn o atgofion. Ganwyd ef yn Sir Benfro ond gyda’i dad yn Weinidog symudodd y teulu i wahanol ardaloedd. Bu’n sôn am ei blentyndod a’i hanes fel mab y Mans! Mae Ffair Rhos yn agos iawn at ei galon lle roedd yn mynd ar wyliau at ei deulu, a phan ofynnwyd iddo pwy oedd wedi rhoi’r dylanwad mwyaf arno onibai am ei rieni a’i ateb oedd ei fodryb! Mae’n sylwebydd ar raglenni ralio, rygbi, seiclo, rasus a hefyd yn Sioe Amaethyddol Llanelwedd. Soniodd am yr holl wledydd bu’n ymweld â nhw yn sgil ei waith, a diddorol oedd clywed am y gwahanol brofiadau, rhai digrif a rhai fwy difrifol. Cafodd gyfle i sylwebu ar raglen Seiclo Tour de France pan enillodd Gareth Thomas y fedal aur. Diolchwyd i Wyn am rannu ei brofiadau ac am roi o’i amser prysur i ymuno gyda’r Gymdeithas gan y Bugail. Cafwyd paned o de a bisgedi wedi ei baratoi gan yr aelodau cyn troi am gartref.
Reunion – class of 1980
A REUNION is being organised for Year 1980 who attended Tregaron Secondary School to be held on Saturday, 7 September, at 6.30pm in Y Talbot, to celebrate their 50th year and to have a good catch up. Contact Cat Herbert or Catherine Ruff for more details via Facebook or phone 07858 663639 or 07969 685408.
Capel Bwlchgwynt
FORE Sul, 24 Chwefror, am 10yb cynhelir oedfa dan ofal Catherine Hughes. Cynhelir noson gyda’r Gymdeithas i ddathlu G?yl Dewi nos Fawrth, 26 Chwefror am 7yh yn y festri. Llywydd y nos fydd y Bugail a’r adloniant dan ofal Betrys Davies ac Alwena Mair Owen. Dewch â llestri os gwelwch yn dda.
Merched y Wawr NOS Fercher, 6 Chwefror, croesawyd yr aelodau gan y llywydd, Manon Wyn James. Penderfynwyd cyfrannu rhodd i Gronfa Tregaron Eisteddfod 2020. Ar ôl trafod rhai materion aeth Manon ymlaen i groesawu a chyflwyno Graham Jones a’r criw o Beiciau Gwaed Cymru i’n plith. Bu Graham yn sôn am ei ddiddordeb mewn beiciau modur a’r ffordd wnaeth e ymuno gyda’r Beicwyr Gwaed. Mae pob gyrrwr angen trwydded ‘advanced’ a wedyn mae ‘na hyfforddiant i fedru delio â’r cynnyrch gwaed ayyb. Trwy gymorth pwynt p?er cafwyd cyflwyniad arbennig ganddo ac roedd yn agoriad llygad i weld yr holl waith a wneir ganddynt, a hynny’n hollol wirfoddol a dim chostau teithio. Byddant yn cludo gwaed ar gyfer trosglwyddiad, nwyddau a meddyginiaeth hanfodol o un ysbyty i’r llall ac yn helpu gyda gofal plant newyddanedig dros nos ac ar y penwythnosau a gwyliau’r banc. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’r Bwrdd Iechyd, ac yn dibynnu’n llwyr ar roddion. Roedd yn ddiolchgar iawn i unigolion a chymdeithasau am eu caredigrwydd a’u haelioni. Soniodd am y bobl sydd ynghlwm â’r elusen sef y rheolwyr, y beicwyr a’r bobl sy’n codi arian ac yn hyrwyddo. Mewn blwyddyn mae’r beiciau trwy Gymru yn gwneud tua 250,000 o filltiroedd ar gyfartaledd. Mae angen mwy o wirfoddolwyr i wneud y gwaith arbennig yma boed yn feicwyr, ateb ffôn neu godi arian. Anogodd Graham i unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu. Talwyd y diolchiadau gan Ann Morgan gan ddiolch i Graham a’r criw am eu gwaith amhrisiadwy a chanmoladwy. Cafwyd cyfle i gyfrannu tuag at yr elusen a thynnu llun gyda’r criw, a gwnaeth Manon, Mair Jones ac Yvonne Jones fentro ar gefn y beic modur. Paratowyd paned a bisgedi gan aelodau Blaencaron, Maesyrawel a Brynheulog dan ofal Cath Williams. Ar nos Fercher, 6 Mawrth, cynhelir noson i ddathlu G?yl Ddewi yng nghwmni Mr a Mrs Wyn Melville Jones. Cofiwch ddod â llestri os gwelwch yn dda. If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.