THE latest community news from Tregaron
Capel Bwlchgwynt
NI fydd oedfa ym Mwlchgwynt dydd Sul, 22 Medi.
Cynhelir Taith Gerdded noddedig Gofalaeth Caron a’r Cylch am 2yp.
Bydd y daith eleni yn dilyn rhan o lwybr Ystwyth gan gerdded o Drawsgoed i Lanilar.
Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno ar y daith, ac fe fydd ceir yn gadael maes parcio Bwlchgwynt am 1.30yp.
Bydd elw’r daith yn mynd tuag at y gwaith da a wneir gan elusen ‘Leprosy Mission’ a gwerthfawrogir unrhyw gyfraniad tuag at yr achos teilwng yma.
Bydd yr Ysgol Sul yn ail-gychwyn ar brynhawn Sul, 29 Medi ac estynnir croeso cynnes i bawb ymuno am 2yp yn y festri.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.