THE latest community news from Tregaron

Capel Bwlchgwynt

BYDD yr oedfa ddydd Sul, 23 Chwefror, am 10yb dan ofal Gareth Ioan.

Y Gymdeithas

YN ddiweddar cynhaliwyd Seiat Holi yn y festri.

Dechreuwyd yn ôl ein harfer trwy ganu Cofia’n gwlad Benllwydd Tirion gyda Catherine Hughes yn cyfeilio.

Llywyddwyd y noson gan Ifan Gruffydd ac aeth ymlaen i groesawu a chyflwyno aelodau’r panel sef Elen James, John Meredith ac Emyr Lloyd.

Roedd Ifan yn ogystal wedi paratoi cwestiynau difyr a diddorol iawn ar eu cyfer.

Cafwyd noson hwyliog yn eu cwmni yn gwrando arnynt yn trin a thrafod y gwahanol bynciau yn amrywio o effeithiau Brecsit, y manteision a’r anfanteision o ddefnydd cyfryngau cymdeithasol, a phwy a greodd y dylanwad fwyaf arnynt yn ystod eu bywyd, a hyn dim ond i enwi rhai.

Diolchwyd i aelodau’r panel am roi o’u hamser i ymuno â’r gymdeithas gan Ifan ac am ymateb gydag atebion doeth a phwrpasol.

Mwynhawyd paned o de a bisgedi a baratowyd gan yr aelodau cyn troi am adre.

Nos Fawrth, 25 Chwefror, cynhelir noson i ddathlu G?yl Ddewi yn y Festri am 7.30yh yng nghwmni John a Menna Jones, Ffair Rhos.

Cofiwch ddod â llestri!

Gwasanaeth Pob Oed

AR fore Sul, 16 Chwefror cynhaliwyd Gwasanaeth Pob Oed yn y festri a chroesawyd y gynulleidfa gan y Bugail.

Thema’r bore oedd ‘Y Ffordd’ a chyhoeddwyd yr emynau gan Osian Jones, Gwilym Jones, Twm James a Lois Davies.

Darllenwyd gan Ianto James ac offrymwyd gweddi gan Anni Grug Lewis Hughes.

Casglwyd gan Nel James ac Owen Jones a chyfeiliwyd gan Nerys Bennett.

Diolchwyd i bawb a gymerodd ran gan Gareth Jones.

Cymdeithas Hanes

BYDD cyfarfod mis Chwefror yng ngofal Huw a Bronwen.

Cynhelir y cyfarfod yn Teile, Bwlchllan ar nos Iau, 27 Chwefror am 7.30yh.

Byddwn yn cwrdd tu allan i’r Talbot am 6.45yh ar gyfer rhannu ceir.

Bydd bwffe ar gael am £12 y pen a derbynir enwau gan Margaret Jones (01974 298935) erbyn dydd Llun, 24 Chwefror.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]