The latest community news from around Tregaron.

English Methodist Church

THE service on 13 November, Remembrance Sunday, will be held in the Memorial Hall at 2.30pm, led by Rev Marty Presdee.

Clwb Cerdded

THE next walk is scheduled for 13 November and is called The Lost Settlements of Bryngwyn Bach.

This walk will start outside Y Talbot at 10.15am or the layby (with recycling bins) on the south side of Pontrhydfendigaid at 10.30am.

From Pontrhydfendigaid, a route through the caravan park and over field paths and tracks is taken, followed by open moorland, to reach the summit of Bryngwyn Bach (395m). On its northern slopes we will wander past some of the many ruined buildings, maybe ‘one-night houses’ and settlement patterns of a long deserted community and perhaps speculate about the lives of those who once live there.

After re-crossing the Afon Fflur, the return is over fields and through forest and woodland back to Bont – likely to be boggy and muddy in places.

The walk is a grade B – moderate walk, which should last approximately four hours over seven miles with an ascent of 275m.

Capel Bwlchgwynt

NI fydd oedfa ddydd Sul, 13 Tachwedd; cynhelir gwasanaeth Sul y Cofio yn y Neuadd Goffa.

Y Gymdeithas

NOS Fawrth, 1 Tachwedd, croesawyd yr aelodau gan lywydd y nos, sef Ifan Gruffydd.

Dechreuwyd trwy ganu Cofia’n Gwlad Benllywydd Tirion gyda Jane Hughes yn cyfeilio.

Aeth Ifan ymlaen i groesawu Hedd Bleddyn o Benegoes, ger Machynlleth Mae’n adnabyddus fel bardd, awdur, eisteddfotwr a storïwr arbennig.

Ganwyd yn Abergynolwyn yn fab i chwarelwr, ac aeth ymlaen i sefydlu busnes cerfio cerrig beddau. Dilynodd Hedd gwrs yn Ngholeg Arlunio Amwythig cyn ymuno ym musnes y teulu a fydd yn dathlu 100 mlynedd yn 2018. Erbyn heddiw mae ei fab Rhys Bleddyn yn rhedeg y fusnes deuluol. Magwyd ef yn Llanbrynmair, a braf oedd gwrando arno yn sôn am hen gymeriadau diddorol y dreflan fach hon.

Aeth ymlaen i sôn am ei brofiadau fel aelod o dîm Talwrn y Beirdd Bro Ddyfi, gan sôn yn arbennig am Dafydd Wyn a fu’n ddylanwad mawr arno i ddechrau barddoni. Roedd yn amlwg fod ganddo barch mawr tuag ato ac fe ddyfynnodd englyn o’i eiddo sef, ‘Ty Annedd’.

Mae wedi ennill llawer o gadeiriau eisteddfodol, fel gwnaeth ei dad yn ei amser. Roedd ganddo gof arbennig wrth adrodd yr holl benillion a’r limrigau.

Mae ei lyfr, Dwyn i Gof a Dyna i Gyd, yn croniclo’r cyfan ac yn sôn am y dylanwadau cynnar a fu arno.

Mae hefyd yn gynghorydd sir ac yn brysur iawn yn ei gymdeithas.

Diolchodd Ifan iddo am roi o’i amser a rhannu ei brofiadau gyda ni. Noson ddiddorol a llawn hiwmor, a gwir yw y gair, does dim byd gwell na digon o chwerthin iach!

Gwerthgawrogwyd paned o de a bisgedi i orffen y noson a baratowyd gan y pwyllgor.

Nos Fawrth, 6 Rhagfyr, cynhelir Noson Nadoligaidd dan ofal Cyril Evans a John Lewis.

Clwb Bowlio

TREGARON Bowling Committee has presented a donation of £100 to Gayle and Eleri, leaders of Ysgol Feithrin Tregaron, after a concert was held at the club on 1 October.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]