THE latest community news from Tregaron.

English Methodist Church

THE service on Sunday, 29 January, will be held in Bryntirion Centre beginning at the earlier time of 2pm, led by Ann Price.

Capel Bwlchgwynt

CYNHELIR yr oedfa ddydd Sul, 29 Ionawr, am 5yh a gwasanaethir gan y Parch Richard Lewis, Bow Street.

Oedfa Deuluol

CYNHALIWYD oedfa deuluol gyntaf y flwyddyn ar fore Sul, 22 Ionawr, dan ofal y Parch Carwyn Arthur, a braf oedd gweld cymaint o blant yn bresennol. Rhoddwyd yr emynau allan gan Gwenno Dark, Elin Williams, Carys Down a Wil Evans. Darllenwyd gan Gethin a Dafydd Bennett ac Ifan Williams, ac offrymwyd gweddi gan Cerys Jewell.

Roedd neges y gwasanaeth yn pwysleisio mor bwysig yw hi ein bod yn credu yn Iesu Grist. Roedd pob llygad ar y Gweinidog wrth iddo roi dwr mewn gwydr a rhoi cerdyn ar y top, dal anadl wedyn pan roddodd y gwydr ben i waered dros ei ben! Roedd pawb yn falch, yn enwedig y Gweinidog ei hunan, fod y cerdyn wedi aros yn ei le!

Casglwyd gan Iago Evans ac Osian Jones, a chyfeiliwyd gan Alice Jones. Bu’r plant i gyd yn canu emyn o’r Detholiad gyda Zara Evans yn eu harwain a Catherine Hughes yn cyfeilio. Diolchwyd i bawb am wneud eu gwaith mor arbennig gan Gareth Jones.

Y Gymdeithas

AR 15 Rhagfyr, aeth rhai aelodau draw i Flaenpennal ar wahoddiad Cymdeithas Penial. Jez Danks, Trefenter oedd y gwr gwadd a chafwyd noson ddifyr iawn yn ei gwmni.

Mae’n storïwr naturiol ac yn gerddor o fri, a chafwyd cyfle i wrando arno’n chwarae’r ffidl. Diolchwyd iddo ac i Gymdeithas Penial am y croeso cynnes gan John Lewis.

Roedd noson Dechrau’r Flwyddyn ar nos Fawrth, 3 Ionawr, dan ofal David a Nerys Bennett. Dechreuwyd y cyfarfod gyda defosiwn byr, bu Nerys yn darllen, ac offrymwyd gweddi gan David.

Thema’r noson oedd cerddoriaeth, a chafwyd noson amrywiol gydag unawd swynol gan Nia Wyn, a’r pedwarawd, David, Nerys, Nia a Cyril a chyfeiliwyd gan Alice Jones.

Gwnaeth Nerys wau’r cyfan at ei gilydd a phwysleisio bod cerddoriaeth yn bwysig iawn i bob cenhedlaeth. Soniodd fel roedd rhaglen deledu ddiweddar wedi dangos plant yn ymweld â chartref henoed, a chalondid oedd gweld sut oedd cerddoriaeth yn creu perthynas hyfryd rhwng yr henoed a’r plant.

Braf oedd cael gwrando ar Gethin a Dafydd Bennett yn canu amrywiaeth o hwiangerddi cyfarwydd. Bu’r pedwarawd yn canu emynau i gerddoriaeth modern yn y cefndir a bu’r gynulleidfa yn cyd-ganu gyda hwynt.

Diolchwyd i David a Nerys am drefnu no-son mor arbennig ar ddechrau blwyddyn gan y Parch Carwyn Arthur. Yn ôl yr arfer mwynhawyd paned o de a bisgedi a chyfle i gael clonc fach ar y diwedd.

Ar nos Fawrth, 7 Chwefror, cynhelir noson o Fy hoff emyn i ddathlu 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn dan ofal y Parch Carwyn Arthur. Croeso cynnes i bawb.

Cymdeithas Hanes

CYFARFOD ar nos Iau, 26 Ionawr, pan fydd y Parch Goronwy Evans yn adrodd hanes Ar Grwydir.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]