THE latest community news from Tregaron
English Methodist Church
THE service on Sunday, 22 October, will be held in the Memorial hall, beginning at 2.30pm and led by Sarah Windsor-Hides.
A warm welcome to everyone.
Eglwys Efengylaidd Caron
CYNHELIR oedfa arbennig yn y Neuadd Goffa am 7.30yh nos Iau, 26 Hydref, gyda’r Parch Dafydd P Morris, Llanpumpsaint yn pregethu a sôn am waith pwysig y ‘Trinitarian Bible Society’.
Croeso cynnes i bawb.
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR Swper Cynhaeaf yn y festri nos Iau, 19 Hydref, am 7yh yng nghwmni Eirwen James.
Croeso cynnes i bawb.
Bydd y gwasanaeth fore Sul, 22 Hydref, am 10yh dan ofal Anna Jane Evans o Gaernarfon.
Y Gymdeithas
NOS Fawrth, 3 Hydref roedd Festri Bwlchgwynt yn llawn ar noson agoriadol y Gymdeithas.
Croesawyd pawb gan lywydd y nos sef Dilys Jones, Y Border Bach.
Dechreuwyd yn ôl ein harfer trwy ganu ‘Cofia’n gwlad Benllywydd Tirion’ i gyfeiliant Gwyneth Davies.
Estynnwyd croeso arbennig i Gôr Merched Bro’r Mwyn i’n plith. Dyma griw o ferched o ardal Cwmystwyth a’r ardaloedd cyfagos aeth at ei gilydd tua dwy flynedd yn ôl i sefydlu côr er mwyn cystadlu yn yr eisteddfod leol. Roedd yn braf i ddeall fod llawer o ddysgwyr yn eu plith.
Maent yn mynd o nerth i nerth ac yn brysur iawn yn mynd o amgylch yn diddanu a hefyd yn cystadlu.
Daeth llwyddiant i’w rhan yn Eisteddfodau Tregaron a Chwmystwyth eleni.
Arweiniwyd y noson yn ei ffordd naturiol ei hun gan Delyth Morris Jones a chyflwynodd arweinydd y côr sef Lisa Regan, a’r cyfeilydd Lona Phillips.
Cafwyd rhaglen dda iawn o ganeuon amrywiol gan y côr a’r unawdwyr Lindsay Cameron, Elan Jones ac Elin Mai Thomas.
Mwynhawyd storïau difyr, yn llawn hiwmor gan Delyth a chyfeiriodd at rai aelodau unigol o’r gynulleidfa, ac yn arbennig Marwin Jones Evans a oedd yn dathlu ei phen-blwydd, a chanwyd pen-blwydd hapus iddi.
Talwyd y diolchiadau am noson arbennig i ddechrau gweithgareddau’r tymor newydd gan Dilys a dymunodd yn dda iddynt i’r dyfodol. Cafwyd cyfle i gymdeithasu dros baned o de a lluniaeth ysgafn a baratowyd gan y pwyllgor cyn troi am gartref.
Ar nos Fawrth, 7 Tachwedd, edrychir ymlaen i groesawu Erwyd Howells i sôn am ei ‘Fywyd fel bugail’.
Estynnir croeso cynnes i bawb.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD noson agoriadol y gangen ar nos Fercher, 4 Hydref, ac estynnwyd croeso cynnes i’r aelodau gan y llywydd, Mared Rand Jones.
Braf oedd croesawu aelodau newydd i’n plith, a gallwn ymfalchïo fel cangen fod gennym griw o ferched ifanc wrth y llyw! Dechreuwyd trwy ganu Cân y Mudiad i gyfeiliant Catherine Hughes.
Cydymdeimlodd Mared gyda’r aelodau a gollodd anwyliaid, a chofiodd at y rhai sydd wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau mawr i’r ysgrifennydd Esyllt Evans a’i gwr Dewi Sion ar enedigaeth Gwen Marged, chwaer fach i Arthur Sion. Trafodwyd rhai materion a threfnwyd timoedd i gystadlu yn y Cwis Hwyl a gynhelir yng Ngwesty Tyglyn Aeron ar nos Wener, 10 Tachwedd.
Estynnwyd croeso arbennig i aelodau o ganghennau Felinfach a Mynach. Aeth Mared ymlaen i gyflwyno’r ‘Tri Tenor’, sef Crwys Evans, Dewi Sion Evans a John Davies ynghyd â’u cyfeilydd Eirwen Hughes.
Sefydlwyd y triawd tua 15 mlynedd yn ôl ac maent wedi profi yn boblogaidd iawn yn perfformio a diddanu led-led Cymru drwy’r blynyddoedd. Mwynhawyd eu cwmni difyr a chafwyd noson hyfryd o ganeuon amrywiol ganddynt.
Diolchwyd i’r Tri Tenor am roi o’u hamser prin i ymuno â’r gangen gan Ffion Medi Lewis Hughes.
Roedd Robyn Lyn yn brysur gyda’i waith operatig, ac fel dywedodd Ffion roedd Dewi wedi cymryd lle ei frawd yn dda iawn!
Diolchodd yn ogystal i aelodau Felinfach a Mynach am dderbyn y gwahoddiad i ymuno â ni.
Roedd y byrddau wedi eu haddurno’n hardd gyda blodau o liwiau’r hydref gan Lisa Jones, a gwnaeth bawb gyfiawnder gyda’r wledd flasus a baratowyd gan y pwyllgor.
Talwyd y diolchiadau ar ran canghennau Felinfach a Mynach gan Val Jones ac Elaine Lewis.
Enillwyd gwobrau’r raffl gan Margaret Evans, Felinfach Ann Evans, Diana Jones a Marwin Jones Evans.
Bydd y gangen yn cynnal Gwasanaeth Diolchgarwch ym Mryntirion ar ddydd Iau, 26 Hydref, am 1.30yp.
Ar nos Fercher, 1 Tachwedd cynhelir noson o Grefftau yng nghwmni ‘Iâr Fach yr Haf’.
Clwb Cerdded/Walking Club
THE next walk is scheduled for 11 November and has been organised by Jim Cowie 01974 831 639.
The Legend of Cantre’r Gwaelod Borth: The highlight of this walk will be to see the remains of the submerged forest exposed at low tide on the beaches at Borth and Ynyslas.
Dated at some 4500-6000 years old they represent a time when the sea levels were much lower and when the land of Wales stretched well out into what is now Cardigan Bay.
Was this the “Welsh Atlantis”, the legendary sunken kingdom of Cantre’r Gwaelod described in folklore, literature and song? The walk starts from outside Y Talbot at 9am and the walk is to last approximately three hours and is graded an Easy walk which covers six miles with an ascent of 150ft/45m.
Should you wish to become a member, give Dafydd the secretary a ring on 01974 298 150.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.