THE latest community news from Tregaron
Cymdeithas Hanes
BYDD y gymdeithas yn cyfarfod am nos Iau, 26 Ebrill, am 7.30yh yn Festri Bwlchgwynt.
Y siaradwr gwadd fydd John Phillips ar y testun Y Swagman – hanes bywyd Joseph Jenkins, Trecefel. Mynediad am ddim.
English Methodist Church
THE service on Sunday, 29 April, will be held in Bryntirion Centre at 2pm and led by Rev Roger Hides.
Merched y Wawr
AR nos Fercher, 4 Ebrill, croesawyd yr aelodau i’r Neuadd Goffa gan y llywydd, Mared Rand Jones.
Trefnwyd tîmau i gystadlu yn chwaraeon rhanbarth Ceredigion a dymunwyd yn dda iddynt.
Aeth Mared yn ei blaen i gyflwyno Llywela Jones a’i ffrind o gwmni Tropic.
Dyma gwmni sy’n gwneud enw da i’w hunan yn gwerthu cynhyrchion gofal croen a cholur.
Susie Ma sy’n gyfrifol am gwmni Tropic. Pan oedd yn 15 oed cafodd weledigaeth i werthu un cynnyrch mewn marchnad yn Llundain.
Yn 2011 ymddangosodd ar raglen The Apprentice a chyflwyno’r cynhyrchion i Lord Alan Sugar.
Dangosodd yntau ddiddordeb ac aethant ymlaen i sefydlu cwmni Tropic a rhoi cyfle i bobl ddechrau busnes harddwch eu hunain yn gwerthu’r casgliad amrywiol yma. Beth sy’n arbennig amdano yw nad ydynt yn defnyddio unrhyw gemegion yn eu cynnyrch.
Bu Sian Evans yn fodel, ac roedd yn edrych yn ddeniadol ac yn naturiol iawn ar ôl derbyn ‘makeover’ gan Llywela.
Roedd dewis eang ar gael a digon o gynhyrchion i bob rhan o’r corff.
Cafwyd cyfle i siopa ar y diwedd ac roedd cyfran o’r gwerthiant yn elw i’r gangen.
Talwyd y diolchiadau gan Ann Morgan gan ddiolch yn arbennig i Llywela am noson ddiddorol iawn ac am ei charedigrwydd i gyfrannu gwobrau gogyfer â’r raffl.
Yr enillwyr oedd Margaret Jones, Nerys Williams ac Angharad Jenkins.
Diolchwyd i Averinah Davies ac aelodau Brynheulog, Maesyrawel a Blaencaron am baratoi paned a bisgedi.
Nos Fercher, 2 Mai, cynhelir Noson o Gofio yn y Neuadd Goffa am 7.30yh.
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR oedfa dydd Sul, 29 Ebrill, am 10yb a gwasanaethir gan y Parch Meirion Morris.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.