THE latest community news from Trgroes

Halen y Ddaear

MEWN noson o ymarfer côr yn Eglwys Tregroes yn ddiweddar, derbyniodd Rhian Jones, Blaencwmerwydd wobr ‘Halen y Ddaear’ am ei gwasanaeth ffyddlon am ganu’r organ yn ddi-fwlch ers 40 mlynedd.

Gwyl Flodau

MAE’R pentre’ wedi bod yn llawn cyffro yn ddiweddar wrth i’r aelodau a ffrindiau gael gwyl flodau arbennig yn yr eglwys i ddathlu 160 o’r eglwys.

Diolch arbennig i Mair Davies, Tresi Aur am ei gwaith caled ac i bawb a fu’n helpu i osod y blodau a stiwardio yn ystod y diwrnodau agored.

Diolch hefyd i bawb a ddaeth i weld, mwynhau’r sgwrsio a’r lluniaeth ac i weld yr hen luniau ar y teledu.

Dathlu 160

CAFWYD gwasanaeth i’w gofio pan ddaeth yr Esgob Joanna i ddathlu penblwydd yr eglwys gyda ni yn Nhregroes a da oedd gweld yr eglwys yn ei gogoniant ac yn llawn ar gyfer y gwasanaeth arbennig a’r dathlu.

Cafwyd hanes yr eglwys gan Mair a Rhian, y wardeniad ac eitemau hyfryd gan y côr a ganodd emyn a oedd wedi’i ysgrifennu gan Rhian a diolch iddi ac i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd.

I orffen y bore cafwyd cinio blasus yn y Porth.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]