THE latest community news from Tregroes
Bingo
CYNHALIWYD bingo ar nos Fawrth, 27 Mawrth, a braf oedd gweld pawb yn mwynhau’r chwarae a’r sgwrsio.
Roedd nifer o enillwyr lwcus a gwobrau raffl a diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r noson hwylus.
Gweithgareddau’r Pasg
BRAF oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd i weithgareddau’r Pasg, gyda phawb yn mwynhau’r helfa drysor wyau, gwneud adduniadau’r Pasg a derbyn wyau Pasg.
Cafwyd llawer o hwyl wrth gymdeithasu a diolch am bob cefnogaeth.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.