THE latest community news from Tywyn
Cyngerdd Nadolig
NOS Wener, 15 Rhagfyr, bu Côr Bro Meirion, y côr cymysg buddugol yng Ngwyl Gorawl Gogledd Cymru 2017, yn cynnal Cyngerdd Nadolig dan y teitl ‘Heddwch i’r Byd’ yn Eglwys Cadfan Sant.
Roedd yr eglwys yn llawn ar gyfer yr achlysur, gyda’r elw o’r noson yn mynd tuag at Gronfa Adfer To’r Eglwys a’r elusen iechyd meddwl, MIND.
Roedd oddeutu 18 cân yn rhaglen y côr, yn gymysgedd o hen ffefrynnau megis Dawel Nos ac O Holy Night, a chaneuon gan gyfansoddwyr cyfoes megis John Rutter a Robat Arwyn.
Yn ogystal, mwynhaodd y gynulleidfa unawdau safonol gan unawdwyr o rengoedd y côr.
Roedd cymeradwyaeth y gynulleidfa ar ddiwedd y noson yn arwydd pendant o’u mwynhad a’u gwerthfawrogiad.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.