Cynhaliwyd tri diwrnod o eisteddfodau llwyddianus iawn ym Mhafiliwn y Bont dros ben-wythnos Gŵyl y Banc, eisteddfodau sydd yn dathlu 60 mlynedd o fodolaeth eleni. Roedd y safon yn uchel a’r cystadleuwyr yn niferus, ac roedd yna naws hyfryd a chyfeillgar i’w deimlo drwy‘r adeg.

Ymhlith y beirniaid eleni roedd y soprano rhyng-wladol, Rhian Lois o Bontrhydygroes, ac roedd yn hyfryd cael ei chroesawu nôl i’w bro enedigol.

Eisteddfod pantyfedwen
Mish-Mash enillwyr y Parti Canu Agored allan o wyth o bartion (Supplied)

Llywydd yr Ŵyl oedd Enid Hughes, cyn-drysorydd weithgar yr eisteddfodau am nifer o flynyddoedd, ac fe gafwyd ganddi araith i’w chofio.

Diolch i bawb fu’n cynorthwyo dros y pen-wythnos a chyda’r trefnu yn ystod y flwyddyn; mae’n braf cael tȋm mor weithgar wrth y llyw.

Eisteddfod pantyfedwen
Miriam Llwyd Davies, Llandre yn ennill yr Unawd allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm o dan 19 oed ac Gwynne Jones, Llanafan yn ennill y Canu Emyn dros 60 oed (Supplied)

Canlyniadau:

Parti Canu oedran Cynradd, Ysgol Pontrhydfendigaid; Parti Llefaru Oedran Cynradd, Ysgol Pontrhydfendigaid; Côr oedran Cynradd, Ysgol Pontrhydfendigaid; Unawd Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau, 1. Levi Spooner, Llanddewi Brefi.

Pantyfedwen
Enillydd yr Unawd dan 25 oed – Ffion Mair Thomas, Crymych a Heti Evans o Bontrhydygroes yn ennill y Canu a’r Llefaru Blwyddyn 2 ac iau. (Supplied)

Ymgom oedran Uwchradd, Martha a Jess, Ysgol Bro Pedr; Unawd Offerynnol Blwyddyn 7–9, Elenor Nicholas, Aberystwyth; Parti Canu Agored, Parti Mish-mash; Unawd Offerynnol Blwyddyn 10 a throsodd, Gruffudd Sion, Llandre.

Pantyfedwen
Jacob Williams, Aberystwyth – enillydd Tlws Coffa Goronwy Evans am y Chwaraewr Press gorau a Beca Williams, Aberystwyth yn ennill yr Alaw Werin a’r Cerdd Dant Agored. (Supplied)

Tlws Coffa Parhaol Goronwy Evans i’r Chwareuwr Pres Gorau, Jacob Williams, Aberystwyth; Ensemble Offerynnol, Aberystwyth Youth Brass Ensemble; Unawd Blwyddyn 2 ac iau, Heti Evans, Pontrhydygroes; Llefaru Blwyddyn 2 ac iau, Heti Evans.

Pantyfedwen
Gruffydd Davies o Gastell Newydd Emlyn yn ennill y wobr gyntaf am Lefaru Blynyddoedd 5 a 6, gyda’i chwaer, Celyn yn ail. (Supplied)

Unawd Blynyddoedd 3 a 4, Nel Edwards Phillips, Bethania; Llefaru Blynyddoedd 3 a 4, Arthur Sion Evans; Unawd Blynyddoedd 5 a 6, Iwan Marc Thomas, Pontarddulais; Llefaru Blynyddoedd 5 a 6, Gruffydd Davies, Castell Newydd Emlyn; Unawd Alaw Werin Blwyddyn 6 ac iau, Arthur Sion Evans.

Pantyfedwen
Dwy chwaer, Mari ac Elin Williams o Dregaron – Mari yn cipio’r wobr gyntaf am Lefaru dan 25 oed ac Elin yn ennill y Cyflwyniad Dramatig a Thlws Her Moc Morgan. (Supplied)

Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac iau, Iwan Marc Thomas; Unawd Blynyddoedd 7-9, Elen Francis, Casnewydd-bach; Llefaru Blwyddyn 7- 9, Fflur Mc Connell, Aberaeron; Unawd Blwyddyn 10-13, Ioan Mabutt, Aberystwyth.

Pantyfedwen
Martha a Jess, Ysgol Bro Pedr – enillwyr yr Ymgom Oedran Uwchradd. (Supplied)

Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 7-13, Ioan Mabbutt; Llefaru Blwyddyn 10-13, Erin Llwyd; Unawd Alaw Werin Blynyddoedd 7-13, Ioan Mabbutt; Unawd Cerdd Dant Agored, Beca Williams, Aberystwyth; Unawd Alaw Werin Agored, Beca Williams; Unawd allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm, Miriam Llwyd Davies, Llandre.

Pantyfedwen
Unawd allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm – Agored – Elain Rhys, Trawsfynydd a Arthur Sion Evans, Tregaron yn ennill ar y Llefaru Blwyddyn 3 a 4, yr Alaw Werin Blwyddyn 6 ac iau ac ail ar yr Unawd Blwyddyn 3 a 4. (Supplied)

Llefrau dan 25 oed, Mari Williams; Cyflwyniad Dramatig Unigol, Elin Williams; Cwpan Her Parhaol Moc Morgan am y perfformiad gorau yn y ddwy gystadleuaeth olaf, Elin Williams, Tregaron am ei chyflwyniad dramatig.

Pantyfedwen
Elin Williams a Dregaron enillydd Tlws yr Ifanc a Levi Spooner, Llanddewi Brefi yn ennill y gystadleuaeth Unawd Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau. (Supplied)

Deuawd Agored, Nel Edwards a Mari Dalton, Bethania; Unawd Gymraeg, Clara Greening; Canu Emyn dros 60 oed, Gwynne Jones; Llefaru o’r Ysgrythur, Erin Llwyd.

Pantyfedwen
Enillwyr yr Ensemble Offerynnol – Gruff, Jacob, Steffan, Steffan ac Elenor o Fand Ieuenctid Aberystwyth. (Supplied)

Unawd allan o Oratorio, Clara Greening; Prif gystadleuaeth Lefaru Unigol, Carol Davies, Henllan; Her Unawd dros 25 oed, Aled Wyn Thomas.

Pantyfedwen
Carol Davies, Henllan yn ennill cystadleuaeth y Prif Lefarydd a Clara Greening o Gwmbran yn ennill yr Unawd Gymraeg a’r Unawd Oratorio. (Supplied)

Bardd y Goron, Dilwyn Jones, Caerdydd; Bardd y Gadair, Dilwyn Jones; Tlws yr Ifanc, Elin Williams, Tregaron; Emyn, Judith Morris, Penrhyncoch; Englyn, Emyr Jones, Caerdydd; Stori Fer, Gruffudd Gwynn; Cywydd, Arwel Emlyn Jones, Rhuthun.

Pantyfedwen
Erin Llwyd o Gorwen yn ennill y Llefaru Blynyddoedd 7-13, ynghyd â nifer o wobrau eraill a Ioan Mabbutt, Aberystwyth yn ennill yr Unawd, Alaw Werin a’r Cerdd Dant Blynyddoedd 7-13. (Supplied)

Soned neu Delyneg, Enfys Hatcher Davies, Llanddewi Brefi; Talwrn y Beirdd, Ysgol Farddol Caerfyrddin; Limrig y noson, Enfys Hatcher Davies.

Pantyfedwen
Mari Dalton, Pont Creuddyn a Nel Edwards-Phillips, Bethania yn ennill y Ddeuawd. (Supplied)