Nos Sadwrn, 13 Gorffennaf, bu Côr Bro Meirion yn cystadlu yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys a gynhaliwyd ar safle Ysgol Dyffryn Banw, Llangadfan, dros gyfnod o ddau ddiwrnod.
Daw aelodau’r cor o sawl rhan o’r hen sir Feirionnydd – Dysynni, Penllyn, Dolgellau, Ardudwy, ynghyd ag ardal Machynlleth ym Mhowys.
Ers ei sefydlu yn 2010 y mae’r côr wedi profi llwyddiant mewn nifer helaeth o eisteddfodau, gan gynnwys y wobr gyntaf me wn cystadleuaeth gorawl yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016 a’r ail wobr mewn cystadleuaeth wahanol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Fro llynedd.
Roedd pedwar cor yn cystadlu yn Eisteddfod Powys eleni a’r gofyn oedd i ganu dwy gan gyferbyniol. Er mawr foddhad a llawenydd i’r arweinydd, Iwan Wyn Parry, y cyfeilydd Huw Davies ac aelodau’r côr, Côr Bro Meirion gipiodd y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth dda. Derbyniodd Iwan Wyn Parry Gwpan Amaethwyr Corwen ynghyd â siec am £500 ar ran y côr.
Cor Meibion Machynlleth, hwythau yn enillwyr cenedlaethol, ddaeth yn ail, gyda Meibion Marchan o Ddyffryn Clwyd a Chôr Meibion Penybontfawr yn gydradd drydydd. Llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy, Llanrwst fydd y nod nesaf ar gyfer nifer o’r corau hyn, gan gynnwys Côr Bro Meirion.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.