Mae Côr Cardi-Gân wedi cyflwyno sieciau i RABI a Tir Dewi.

Derbyniodd cynrychiolwyr y ddwy elusen siec gwerth £500 yr un.

Dywedodd Carys Jones a Dai Davies bod yr arian yma yn werthfawr iawn ar gyfer gwaith mae’r elusennau yn gwneud.

Cardi Gân Tir Dewi
Dewi Jones, y cadeirydd, yn trosglwyddo siec i Tomos a Dyfan Lewis, Tir Dewi (Nia Wyn Davies)

Casglwyd yr arian yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy gynnal gwahanol ddigwyddiadau a Canu Carolau.

Mae’r côr yn ymarfer bob nos Fercher yn Y Gwndwn, Campws Theatr Felinfach am 7.45yh. Mae yna groeso cynnes i aelodau newydd bob amser.

Maent yn awr yn paratoi tuag at y Nadolig gyda tri digwyddiad ym mis Rhagfyr: Noson Canu Carolau yn Eglwys Aberaeron ar y trydydd, Gŵyl y Goeden yn Eglwys Ystrad Aeron ar yr 17eg a mynd o amgylch cartrefi gofal yr ardal ar nos Ferchery chweched.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]