MAE Criw o ddynion o ardal Bro Ddyfi a’r cyffiniau, sy’n mwynhau dod at ei gilydd i ganu a chymdeithasu, wedi lansio albym newydd yn y Sioe Frenhinol.
Mae Côr Meibion Machynlleth yn gôr cymharol ifanc gyda’r aelodau rhwng 20 a 40 oed a’r rhan fwyaf ohonynt yn ffermwyr gydag ambell i athro, adeiladwr a thrydanwr yn eu plith... ac un boi yswiriant!
Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r aelodau wedi bod yn gweithio’n galed yn dysgu ac yn ymarfer caneuon yn barod ar gyfer y sesiynau recordio ac mae’r holl waith caled wedi talu ffordd gyda’r CD nôl mewn pryd ar gyfer eu perfformiad nos Sul, ar faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ac mewn da bryd i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd lle fydd y côr yn cystadlu.
Sefydlwyd y côr ym mis Hydref 2014 gyda’r bwriad o gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod yn 2015, eisteddfod leol i’r côr. Llwyddodd y côr i ddod yn ail yn y gystadleuaeth i Gorau Meibion yn yr eisteddfod honno, ac eto yn 2016 yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.
Paratôdd hyn y ffordd at flwyddyn arbennig a llwyddiannus iawn i’r côr yn 2017, daethant yn fuddugol yng nghategori Côr Meibion cystadleuaeth Côr Cymru ar S4C ym mis Chwefror 2017, ac enillodd y côr y brif wobr i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym mis Awst 2017.
Uchafbwyntiau eraill 2017 oedd canu’r anthem genedlaethol cyn gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm y Principality, a ffilmio pennod arbennig o raglen Cefn Gwlad a ddarlledwyd dros Nadolig 2017.
Bydd y côr yn canu yng nghyngerdd y Mil o Leisiau yn Neuadd Albert, Llundain, ym mis Hydref ac yng Ngwyl Gymreig Ontario yng Nghanada ym mis Ebrill 2019.
Yn ogystal â chystadlu a chanu mewn cyngherddau mawreddog, mae’r côr yn mwynhau cynnal cyngherddau bach yn lleol a chenedlaethol. Mae’r côr yn ymarfer yn wythnosol yn Eglwys Gymunedol Machynlleth ac os basiwch chi drwy Fachynlleth ar nos Lun mae’n bosibl iawn y gwelwch chi res hir o ‘bic-yps’ wedi’u parcio ar hyd y stryd a dyna arwyddocâd llun y clawr!
Traciau : Y Goleuni, Beati Mortui, Heriwn, Wynebwn y Wawr, Dafydd y Garreg Wen, There is nothing like a dame (South Pacific), Salm 8, Joshua, Dies Irae, Ave Maria (Angelus Domini), What shall we do with a drunken sailor?, Ubi Caritas, Deus Salutis – Llef, Bui Doi (Miss Saigon), Gwinllan a roddwyd.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.