Cynhaliwyd cystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant CFfI Ceredigion yn Theatr Felinfach dros wythnos hanner tymor, gyda 15 o glybiau’r sir yn cystadlu a dros 400 o aelodau yn perfformio ar y llwyfan yn ystod yr wythnos.

Cafwyd cefnogaeth gref gan y clybiau a hefyd ffrindiau’r mudiad, gan sicrhau bod y theatr dan ei sang. Mae CFfI yn ddiolchgar iawn i Theatr Felinfach a’r staff.

Y clybiau a gymerodd rhan oedd Bro’r Dderi, Felinfach, Llanddeiniol, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Llangwyryfon, Llanwenog, Lledrod, Mydroilyn, Penparc, Pontsian, Talybont, Tregaron, Trisant a Throedyraur.

Fe wnaeth y beirniad, Delme Harries (cyn-aelod o Glwb Llysyfran, Sir Benfro) ganmol bob clwb am eu safon uchel o berfformiadau.

Ar ddiwedd yr wythnos dyfarnwyd Felinfach yn gyntaf, gyda Llanddewi Brefi yn ail a Thalybont yn drydydd. Yn ogystal â Felinfach yn ennill Cwpan Mr a Mrs DGE Davies, Faerdre, Llandysul, cyflwynwyd nifer o wobrau eraill ar ddiwedd y noson olaf.

Actor gorau 16 oed neu iau, Tarian Mr a Mrs Alwyn Evans – Gwion Owen, Llanddewi Brefi; actores orau 16 oed neu iau, Cwpan Teulu Pantyrodyn – Lois Medi Jones, Talybont; actor gorau, Cwpan Coffa Dafydd Elgan Lewis, Penparc – Gethin Hughes, Llanddeiniol; actores orau, Cwpan Helen Phillips, Llanwenog – Alaw Mair Jones, Felinfach; cynhyrchydd gorau, Cwpan Mr a Mrs Lyn Davies, Bryngwyn – Llanddewi Brefi; sgript orau, Cwpan Ifor ap Glyn, Cwmni Da – Felinfach; perfformiad technegol gorau, Cwpan Theatr Felinfach – Pontsian.

Cafodd pob un o’r enillwyr dlws o waith Sianti, Aberaeron i’w gadw, wedi eu rhoi gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Darllenwch y stori llawn yn rhifynnau dde y Cambrian News yr wythnos hon