Côr Cwmann a’r Cylch
ROEDD aelodau’r côr ar ben eu digon nos Sadwrn, 6 Awst. Bydd y dyddiad hwn yn aros yng nghof pawb oherwydd ennillydd y brif gystadleuaeth i unawdwyr, y Rhuban Glas, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni oedd aelod o’r côr, sef Kees Huysmans.
Mae Kees yn enedigol o Steen-bergen ac fe’i magwyd yn Sterksel yn yr Iseldiroedd. Daeth i Gymru dros 20 mlynedd yn ôl a setlo ym mhentref Tregroes, ble bu’n cadw siop.
Cyn hir, dechreuodd goginio a gwerthu bisgedi, sy’n draddodiadol yn ei wlad enedigol, ac erbyn hyn mae Waffles Tregroes yn boblogaidd drwy’r wlad.
Penderfynodd yn syth pan ddaeth i Dregroes ei fod yn mynd i ddysgu’r iaith Gymraeg. Pan ymunodd â Chôr Cwmann a’r Cylch gwnaeth yn glir i bob aelod ei fod am iddynt siarad ag ef yn Gymraeg yn unig.
Erbyn hyn mae Kees yn hollol rugl yn yr iaith ac mae ei Gymraeg yn well na llawer ohonom ni!Dechreuodd ganu fel unawdydd i’r côr pan oedd SAGA yn trefnu gwyliau yng Ngholeg Llambed â’r côr, pryd hynny, yn diddanu’r ymwelwyr yn rheolaidd.
Yn ôl pob hanes, yr oedd ar y dechrau braidd yn nerfus, ond roedd ei natur benderfynol a’i hiwmor hoffus yn ei gario trwy bob anhawster. Yr oedd ei berfformiad yn ennill y Rhuban Glas yn hunan feddiannol ac yn broffesiynol, ac yn ôl pob arbenigwr, yn llawn haeddu’r wobr.
Mae ei orchestion yn sefydlu busnes lwyddiannus mewn gwlad estron iddo; dysgu’r iaith Gymraeg a nawr yn ennill y wobr uchaf y gall ein gwlad gynnig i ganwr, yn glod mawr iddo.
Nid yn unig mae aelodau’r côr yn ei longyfarch yn unfrydol, ond maent hefyd yn diolch iddo am anrhydeddu ein haith a’n diwylliant mor urddasol.
Mae hen ddywediad, bod tu ôl i bob dyn da mae gwraig dda, ac mae’n sicr bod Kees yn ddyledus i Elonwy ei wraig, sydd hefyd yn gyfeilyddes y côr, am ei chefnogaeth.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.