Eglwys Newydd yr Hafod

AR NOS Sul hafaidd, 5 Mehefin, cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yng nghwmni Côr Bro Meirion o dan arweinyddiaeth Iwan Wyn Parry. Pwrpas y gyngerdd oedd codi arian tuag at gronfa ail-doi yr eglwys a daeth cynulleidfa gref ynghyd i gefnogi. Offrymwyd gweddi ar y cychwyn ynghyd â gair o groeso gan y Parch Robin Morris, a chyflwynwyd y côr gan Elen Lewis gan roi braslun o’i hanes ers ei sefydlu yn 2010 yn dilyn diddordeb gan gyn-aelodau Côr Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009. Mae aelodau’r côr yn ymestyn o bob rhan o Feirion, dros ardal eang iawn ac yn ymarfer yn wythnosol yn Nolgellau. Yn ogystal â chystadlu’n flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol, mae’r côr hefyd yn brysur yn cynnal cyngherddau. Cafwyd cyfle i fod yn rhan o un o gyfresi Parciau Cenedlaethol Caroline Quentin yn 2013 ac fe’u gwelwyd ar raglen Cefn Gwlad gyda Dai Jones yn 2014. Maent yn brysur ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Fenni a Gwyl Gorawl Gogledd Cymru Llandudno ym mis Tachwedd. Hefyd yn ddiweddar gwnaethant gystadlu yng Ngwyl Gorawl Cheltenham.Cafodd eu harweinydd, Iwan Wyn Parry, ei eni yn Llanymddyfri, ond ei fagu yn Y Groes-lon, Sir Gaernarfon ar aelwyd lle roedd cerddoriaeth yn cael lle amlwg. Bu’n astudio milfeddygaeth yng Ngholeg Milfeddygol Caeredin, ac erbyn heddiw mae’n filfeddyg uchel ei barch yn Nolgellau. Mae wedi cystadlu’n rheolaidd yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol, gan ennill y Rhuban Glas yn 26 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn 1991. Yn 1996 enillodd gystadleuaeth Canwr Ifanc y Flwyddyn yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangol-len.Huw Davies, o ardal Dolanog ym Maldwyn yw cyfeilydd y Côr ac ef yw pennaeth cerdd Ysgol Uwchradd Llanfyllin.Gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan berfformi-adau safonol y côr yn ogystal ag unawdau a deuawd hyfryd. Roedd eu rhaglen yn amrywio o ganeuon clasurol a sioeau cerdd i fyd alawon gwerin a hen ffefrynnau Cymreig â’r cyfan o dan arweiniad egnïol eu harweinydd.Yn ystod egwyl hanner amser pleser gan y Parch Ingrid Rose fu cyflwyno llywydd y nos, sef Vri Lewis, Garreg Wen, Cwmystwyth. Mae Mrs Lewis yn aelod ffyddlon o Eglwys yr Hafod a hynny ers dros 60 o flynyddoedd a chyfeiriwyd at ei gweithgarwch diflino ynghyd â’i diweddar briod, Islwyn, i’r eglwys. Yn anffodus, nid oedd yn medru bod yn bresennol, ond braf oedd cael estyn croeso i’w merch, Ann Jones, i ddweud gair yn ei lle. Dymuna’r eglwys ddiolch i Mrs Lewis am ei rhodd anrhydeddus i’r gronfa.Ar ddiwedd y gyngerdd gwnaed y diolchiadau gan y Parch Ingrid Rose, gan ddiolch yn ddidwyll i’r côr am arlwy ragorol.

Cyfeiriodd hefyd at ddiwydrwydd y criw bychan o aelodau a weithiodd mor ddygn tuag at sicrhau llwyddiant y noson. Cyn troi tuag adre mwynhaodd aelodau’r côr swper blasus yn Ysgoldy Goch a baratowyd gan wragedd yr eglwys.