Lle, llên a llun: cyfuniad o dri pheth yw’r gyfrol hon. Mae hi’n gyfrol sy’n dathlu’r berthynas anhepgor rhwng beirdd a lleoliadau, yn ogystal â chyfoeth hanes ein gwlad drwy gyfrwng barddoniaeth, ffotograffau ac ysgrifau.

Mae golygydd y gyfrol, y Prifardd Alan Llwyd, wedi dewis 50 cerdd arwyddocaol sy’n dweud rhywbeth arbennig am ein treftadaeth.

Mae yma gerddi am draethau, adeiladau a mynyddoedd – lleoedd sydd wedi ysbrydoli ein beirdd ers canrifoedd lawer.

Drwy gyfrwng y farddoniaeth a’r lluniau, ynghyd â thameidiau difyr iawn o hanes, dyma gyfrol sy’n cynnig rhywbeth hollol unigryw i’r darllenydd: taith lenyddol o’r gogledd i’r de sy’n cwmpasu hanes, daearyddiaeth a barddoniaeth mewn un gyfrol.

Ymysg cerddi’r gyfrol, ceir amrywiaeth helaeth o gerddi, o hen ffefrynnau i gerddi diweddar iawn.

Rhai ohonynt yw ‘Aberdaron’ gan Cynan, ‘Penrhyn Ll?n’ gan Meirion MacIntyre Huws, ‘Gaeaf yn Ninas Mawddwy’ gan Elinor Gwynn, ‘Llyn y Gadair’ gan T. H. Parry-Williams, ‘Bwgan Llyn Nantlle’ gan Karen Owen, ‘Climeri’ gan Gerallt Lloyd Owen, ‘Preseli’ gan Waldo Williams’ a ‘Dere i Fferm y Grange’ gan Catrin Dafydd.

Mae’r elfen weledol yn bwysig iawn i’r gyfrol hon, gydag o leiaf un llun lliw i bob cerdd a rhai lluniau ychwanegol hefyd i gyd-fynd gyda’r ysgrifau a’r cerddi.

Y ffotograffydd Iestyn Hughes, o Bow Street, fu’n gyfrifol am dynnu’r lluniau ac maent oll yn ychwanegu haen arall i’r gyfrol.

Cyhoeddir y gyfrol hefyd i dynnu sylw at y ffaith fod Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn eleni – y deugain oed.

Deugain mlynedd yn ôl, y weledigaeth oedd i sefydlu cyhoeddwr llyfrau a fyddai’n dathlu ac yn cynnal ein traddodiad barddol.

Golygydd cyntaf Cyhoeddiadau Barddas oedd y Prifardd Alan Llwyd, awdur y gyfrol hon.

Pwy well, felly, i ddewis hanner cant o gerddi am leoedd yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r traddodiad barddol cyfoethog sydd gennym ni yma yng Nghymru?

Mae Alan Llwyd yn Brifardd ac yn awdur poblogaidd sydd wedi cyhoeddi nifer helaeth o lyfrau.

Mae’n byw yn Abertawe ac mae ganddo gadair Athro bersonol yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe ers 2013.

Ymysg ei lyfrau diweddar mae Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones (Barddas, 2019) a Dwylo Cochion (Gomer, 2020).

Ef oedd golygydd cyntaf Cyhoeddiadau Barddas a sefydlwyd yn 1981.

Mae Iestyn Highes yn gyfarwydd iawn â theithio’r wlad benbaladr yn tynnu lluniau o dirluniau hardd a safleoedd arwyddocal sydd gennym ni yma yng Nghymru.