MEWN rhaglen ddogfen bersonol a dadlennol, mae’r newyddiadurwraig Maxine Hughes yn edrych ar y system ganser yng Nghymru, gan siarad â sawl un sydd wedi profi ei diffygion.

O geisio derbyn diagnosis i’r gofal wedi’r driniaeth, yn Maxine Hughes: Canser ar ba gost? mae’r Gymraes yn archwilio beth yw byw gyda canser yng Nghymru heddiw.

Gellir gweld y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.

“Mae’r ffigyrau yng Nghymru yn dangos bod y sefyllfa yn waeth nac erioed,” meddai Maxine. “Mae canser yn gallu mynd o un stage i’r stage nesaf mewn llai na misoedd. Ac mae hwnna’n gallu golygu ymladd yn erbyn canser, neu farw.”

Yn 45 mlwydd oed daeth Maxine Hughes o hyd i lwmp ar ei bron. A hithau’n byw yn Washington DC, America, ac yswiriant iechyd da ganddi, o fewn pythefnos roedd wedi derbyn diagnosis o ganser y fron trebl negyddol, ac yn dechrau ar gwrs o driniaeth chemotherapi.

Yn 45 mlwydd oed daeth Maxine Hughes
Yn 45 mlwydd oed daeth Maxine Hughes (S4C)

“Bob tro dwi’n siarad gyda pobl nôl yng Nghymru mae pobl yn dweud dwi ddim yn gallu coelio sut ti wedi cael triniaeth mor gyflym. Sut ti wedi cael diagnosis a pythefnos wedyn ti’n eistedd i lawr yn y gadair i gael y chemo cyntaf.”

Ar Maxine Hughes: Canser ar ba gost? mae Lowri Griffiths, Cyfarwyddwr Cymorth, Polisi a Mewnwelediad elusen Tenovus yn siarad am golli ffrind agos iddi, Claire O’Shea, a wynebodd rwystrau wrth geisio cael diagnosis. Mae Tenovus yn cefnogi ymgyrch Claire’s Campaign, sy’n galw am newid yn y diwylliant o ddiystyru lleisiau merched yn y byd gofal iechyd.

“Rydan ni isio meddygon a chlinigwyr wrando ar ferched. Os ydyn nhw’n dweud bod rhywbeth yn bod ar eu cyrff, nhw sy’n gwybod.

“Rydan ni’n gofyn i’r Llywodraeth greu strategaeth newydd ar gyfer canser yng Nghymru. Mae’r swnami o bobl sy’n mynd i gael canser yma yn y dyfodol yn mynd i gynyddu... ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r crisis...”

Mae Dawn Larson o Gaernarfon yn rhannu ei phrofiad personol hi o ganser gyda Maxine, o’r driniaeth a’r diagnosis i’r bwlch yn y gofal ar ôl y driniaeth.

“Ar ôl i ti droi’n hanner cant ti’n cael mamogram bob tair blynedd, ond os wyt ti wedi cael triniaeth, ti’n cael mamogram bob blwyddyn, a dyna ni,” esbonia Dawn, sy’n teimlo bod yr ôl-ofal ar goll yng Nghymru. “Roedd y gofal gan y tîm yn fan hyn yn anhygoel; maen nhw wedi trwsio fi,” meddai wrth sôn am ei thriniaeth. “Ond wedyn does yna ddim byd arall.”

Mae’r gwahaniaeth yn yr ôl-ofal yn syndod mawr i Maxine, fydd yn gweld yr oncolegydd bob chwe mis am bum mlynedd i gael sganiau a phrofion gwaed yn dilyn ei thriniaeth yn America.

Un arall sy’n credu’n gryf dros wella gofal ar ôl triniaeth canser yw Ffion Haf Hughes o Gaernarfon, sylfaenydd Judith’s Trust. Mae’r elusen yn darparu cymorth uniongyrchol i ferched sydd wedi dioddef salwch difrifol fel canser y fron gan gynnig triniaethau a therapïau cosmetig meddygol am ddim.

“Mae lot o ferched yn dod atom ni efo brestiau hollol wahanol, hollol messed up, scars yn bob man,” esbonia Ffion. “Ond wedyn ti’n siarad efo surgeon arall sy’n gwneud gwaith ardderchog bob diwrnod a ti’n meddwl, does 'na ddim rhaid iddo fo fod fel 'na.”

Ar y rhaglen gwelwn Ffion yn creu teth ac areola dros-dro ar fron Maxine, gan drafod yr hyder a’r gwelliant a ddaw mewn llesiant unigolion wrth roi gofal i adfer y corff yn dilyn triniaeth canser.

“Do’n i ddim yn disgwyl iddo edrych mor naturiol. Mae’n rhoi gobaith i fi mewn ffordd achos dwi’n gweld nawr sut dwi’n gallu edrych yn y dyfodol.” meddai Maxine, sy’n cael llawdriniaeth i godi’r ddwy fron ar y rhaglen. “Dwi’n cofio gofyn i’r oncologist ar ôl y llawdriniaeth, be dwi fod i wneud rŵan? A dyma hi’n dweud ‘ti’n mynd allan a byw dy fywyd.’ A dwi’n meddwl am hynna yn aml iawn rŵan. Ti’n gorfod gwneud, ti jest yn gorfod byw.”

O’r personol i’r cenedlaethol, gan fynnu atebion gan wleidyddion a chlywed gan rai sy’n arloesi ym myd triniaeth canser, mae Maxine Hughes: Canser ar ba gost? yn rhoi cipolwg i ni ar realiti ac effaith y system ganser yng Nghymru heddiw.