Mae gan Gyhoeddiadau Barddas gyfrol newydd i ddathlu’r gwanwyn.

Ydych chi’n hoffi gweld yr arwyddion cyntaf o wanwyn? Y cynffonnau ŵyn bach ar ganghennau’r coed, neu gân ddi-baid yr adar? Maent oll yn cael sylw yn y gyfrol hardd, glawr caled hon.

Yn gyfuniad perffaith o gerdd a llun i ddarlunio byd natur, mae Inc yr Awen a’r Cread - Cerddi Byd Natur wedi ei rhannu’n wyth adran gyda phob un yn canolbwyntio ar agweddau gwahanol o fywyd ar y ddaear – o blanhigion ac anifeiliaid i berthynas y ddynoliaeth â natur.

Mae yma hen ffefrynnau, megis ‘Y Llwynog’ gan R Williams Parry, ymysg toreth o gerddi newydd sbon gan feirdd o fri sy’n disgrifio pryfaid, adar, anifeiliad, blodau a phlanhigion.

Mae’r gyfrol hefyd wedi ei chynllunio’n ofalus fel bod y cerddi’n ddrych cynnil o ryfeddod y Greadigaeth ac esblygyiad bywyd ar y ddaear, gan ddilyn stori’r Creu o’r dechrau un.

Ymysg y 60 o gerddi, ceir comisiynau newydd sbon gan Annes Glynn, Anni Llŷn, Anwen Pierce, Ceri Wyn Jones, Christine James, Cynan Jones, Dafydd John Pritchard, Huw Erith, Idris Reynolds, Ieuan Wyn, Iwan Rhys, Jim Parc Nest, Llio Maddocks, Lowri Lloyd, Manon Awst, Mari George, Mererid Hopwood, Osian Rhys Jones, Rhys Iorwerth a Sian Northey.

Mae yma gerddi dirdynnol a hiraethus, cerddi sy’n procio ac yn herio ac ambell i gerdd ddoniol hefyd (megis ‘Madarch’ gan ddau sy’n galw eu hunain yn ‘Goblyn Bach a’r Pwca Drwg’!).

Mae i bob cerdd lun lliwgar o ansawdd uchel sy’n dod â’r gerdd yn fyw i’r darllenydd.

Maent yn ffotograffau wedi eu tynnu gan sawl ffotograffydd gwahanol, yn eu plith, Iestyn Hughes, Gerallt Pennant, Janet Baxter ac ambell un arall sy’n arbenigo mewn dal rhyfeddod byd natur ar gamera.

Mae’r diwyg hefyd yn hynod o drawiadol – yn gyfrol clawr caled o safon ac wedi ei dylunio’n grefftus gan Tanwen Haf.

Inc yr Awen a’r Cread, Cerddi Byd Natur, Golygydd: Rhys Dafis, £10.95. Ar gael: 18fed o Fawrth, 2022