Bu'n bleser cyflwyno siec o £2,000 i Sefydliad DPJ, ar ran Cymdeithas yr Hoelion Wyth, yn ystod cyfarfod blynyddol yn Nhafarn Ffostrasol yn ddiweddar.

Dyma oedd gorchwyl olaf Eurfyl Lewis fel cadeirydd, cyn iddo drosglwyddo'r awennau i John Jones.

Codwyd yr arian drwy gynnal raffl fawr a noson o adloniant yng nghwmni Parti'r Camddwr yng Nghaffi'r Emlyn, Tanygroes.

Gwelir Eurfyl yn cyflwyno'r siec i Gerwyn Davies o Abergwaun (un o wirfoddolwyr Sefydliad DPJ), yng nghwmni swyddogion Cymdeithas yr Hoelion Wyth, sef Nigel Vaughan (trysorydd ), John Jones (is gadeirydd), Calfin Griffiths (llywydd ) a Geraint Morgan (ysgrifennydd).