CYNHELIR cyngerdd a chymanfa ganu arbennig i ddathlu pen-blwydd Capel Ty’ngwndwn yn 250 oed.
Bydd y telynor Llywelyn Ifan Jones a’r cantorion Jessica Robinson a Rhys Meirion yn perfformio ar ddydd Sul, 1 Hydref am 4yp yn y capel yn Felinfach a sefydlwyd yn 1773.
Arweinydd y gymanfa yw Siw Jones gyda Menna Rhys ac Euros Lewis yn cyfeilio.
Tocynnau £15 ar gael wrth y drws neu o swyddfa bost Felinfach.