DAFYDD Jones, aelod o CFfI Meirionnydd, yw cadeirydd newydd Ffederasiwn CFfI Cymru.

Etholwyd Dafydd gan aelodau yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol CFfI Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, a bydd yn arwain y sefydliad yn ystod y flwyddyn sy’n dod.

Mae Dafydd newydd ymddeol fel Cadeirydd Ffederasiwn Sirol CFfI Meirionnydd, ac mae’n gweithio i fusnes ffermio’r teulu yn Llanfihangel y Pennant, ger Tywyn.

Ar ôl cael ei ethol yn gadeirydd, dywedodd Dafydd: “Mae’n anrhydedd cael fy ethol yn gadeirydd Ffederasiwn CFfI Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’n tîm o swyddogion a staff brwdfrydig ac ymroddgar i sicrhau yr aiff y sefydliad o nerth i nerth.

“Rwy’n edrych ymlaen hefyd at wella proffil y sefydliad yn y diwydiant amaethyddol, a chael cydnabyddiaeth am y gwaith rydym ni’n ei wneud i gynorthwyo, hyfforddi a datblygu ffermwyr y dyfodol.”

Cyhoeddodd Dafydd mai’r elusen y bydd y sefydliad yn ei gefnogi eleni fydd Ambiwlans Awyr Cymru, a bydd yn cyfranogi mewn taith tractorau ledled Cymru yn ystod haf 2019.

Anogir Clybiau Ffermwyr Ifanc a Ffederasiynau Sirol y CFfI i godi arian i’r elusen dros y deuddeg mis nesaf hefyd.

Cafodd Katie Davies o Ffederasiwn Sir Benfro ei hethol yn is-gadeirydd yn ystod y CCB.