MAE trefnwyr Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych wedi datgelu rhai o’u cynlluniau ar gyfer yr Eisteddfod gyntaf ers tair blynedd.
Ar ôl gorfod gohirio’r ŵyl o ganlyniad i Covid-19, cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022 ar gyrion tref Dinbych rhwng 30 Mai a 4 Mehefin eleni. Hon yw gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop, sy’n denu dros 65,000 o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru yn flynyddol, ynghyd â 100,000 o ymwelwyr i’r maes.
• Llwyfan i bawb – dim rhagbrofion yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni
Mae miloedd o blant a phobl ifanc wrthi’n cystadlu mewn dros 220 o Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth di-gynulleidfa dros y gwanwyn, gyda’r buddugol ymhob rhanbarth yn cael eu gwahodd i gystadlu ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych. Bellach, gall y trefnwyr gadarnhau na fydd rhagbrofion i’r rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn Ninbych er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y profiad o gystadlu ar brif lwyfan yr Urdd. Ac o ganlyniad, nid dim ond un Pafiliwn fydd ar faes yr Eisteddfod, ond tri.
• Tocynnau mynediad i’r Maes yn rhad ac am ddim – bellach ar gael i’w harchebu
Daeth cadarnhad ym mis Rhagfyr 2021 bod yr Urdd yn derbyn £527,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, er mwyn agor y drysau a chynnig mynediad am ddim i bawb i Eisteddfod yr Urdd 2022, ym mlwyddyn canmlwyddiant y mudiad. Mae tocynnau’r ŵyl bellach ar gael i’w harchebu drwy wefan Eisteddfod yr Urdd (www.urdd.cymru/tocynnau) ac eleni maent yn cynnig mwy nag erioed gyda mynediad i’r cystadlu, Gŵyl Triban, sioeau a holl adloniant y Maes yn rhan o’r tocyn.
• Gŵyl Triban – aduniad mwya’r ganrif
Am y tro cyntaf erioed, ac i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru, cynhelir gŵyl o fewn gŵyl ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma fydd “aduniad mwyaf y Ganrif” gyda gwahoddiad i holl aelodau, cyn-aelodau a ffrindiau’r Urdd ymuno yn y dathlu. Mi fydd mynediad i Triban (2-4 Mehefin) yn rhad ac am ddim ac yn gynwysedig yn y tocyn i faes yr Eisteddfod. Bydd yr ŵyl yn cynnig gwledd o fwyd a diod, cyfle i hel atgofion ynghyd â pherfformiadau gan Eden, Gwilym, Eädyth, Tara Bandito, N’Famady Kouyaté a llawer mwy.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Rwy wrth fy modd bod Maes Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i Sir Ddinbych eleni. Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad blynyddol mor bwysig a rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom wedi cael profiad ohono, boed hynny’n cymryd rhan mewn cystadlaethau neu’n ymweld â’r Maes pan mae wedi’i gynnal yn ein hardal ni.
“Mae ymweld â’r Eisteddfod yn gyfle gwych i ddefnyddio’r Gymraeg, gyda gweithgareddau i bawb, p’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg hyderus, yn ddysgwr neu os oes gennych ddiddordeb yn yr iaith a’r diwylliant. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r Urdd, ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, i wneud mynediad i’r Maes yn rhad ac am ddim eleni, i bawb ei fwynhau.”
Ychwanegodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Does dim dwywaith ein bod ni i gyd, boed yn gystadleuwyr, hyfforddwyr, cefnogwyr, stondinwyr neu’n wirfoddolwyr wedi hiraethu am yr Eisteddfod a’i hasbri.
“Mae ein diolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr, beirniaid, hyfforddwyr a staff sydd wedi rhoi o’u hamser i sicrhau ein bod yn gallu llwyfannu Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth y gwanwyn hwn. Heb os, bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, yng nghanol blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd, yn ŵyl i’w chofio - ac mae pawb ynghlwm â pharatoadau’r Eisteddfod yn haeddu hynny.”



.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.