MAE awdur o Borth y Gest wedi cyhoeddi llyfr newydd yn barod ar gyfer yr hosan ’Dolig, dyma gyfrol arbennig sy’n crynhoi Nadoligau traddodiadol Cymreig a’u cyflwyno mewn un pecyn bach deniadol.

Sbrigyn o Gelyn Coch, gan William Owen, yw’r llyfr bach fydd yn plesio unrhyw un sy’n mwynhau holl fwrlwm yr wyl - ac yn rhoi rhywbeth i’r mwyaf surbwch gnoi cil arno!

Yn y gyfrol hyfryd hon mae’r dewin geiriau o Borth y Gest, yn ei ffordd ddihafal a difyr ei hun, yn dathlu pob agwedd o’r wyl - o ddramâu’r Geni i ailgylchu anrhegion.

Cewch joch o hiwmor a pherlau o ddoethineb, a chyfle i werthfawrogi gwir ystyr y Nadolig, oll yn arddull unigryw a choeth yr awdur.

Mae William Owen yn un o’r bobl hynny sy’n gwenu wrth sgwennu.

Mae’i hiwmor bob amser yn agored ac yn agos i’r wyneb ac mae’n canfod rhywbeth i’w gosi ym mhob un o’i hoff feysydd – crwydro, theatr, llenyddiaeth, llenorion, hanes lleol a hanes y pulpud. Yn fwy na hynny, mae ganddo’r ddawn i ddewinio geiriau sy’n trosglwyddo’r ysgafnder i’r darllenydd.

Mae’n gwmni difyr yn ei gyfrolau, ond mae’i sgwennu hefyd yn mynd â ni i dir uchel – fel y gellid disgwyl gan un sy’n cyfeirio at Shakespeare fel ‘Wil fy nghefnder’!

Cyrhaeddodd ei gasgliad o draethiadau Cân yr Alarch restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2011.

Cyfrol o ysgrifau ar thema’r Nadolig sydd yma, a’r pynciau’n amrywio o boen prynu anrhegion i gam-gastio mewn dramâu’r Geni.

Yn ei arddull goeth ond agosatoch, mae’r awdur profiadol hwn yn plethu’r llon a’r lleddf ac yn rhoi digon i fyfyrio arno ar ôl crafu sgerbwd y twrci.

Mae William Owen yn Fonwysyn alltud ac yn awdur ar nifer helaeth o gyfrolau, yn cynnwys Cân yr Alarch, Pluen y Sgwennwr a Hiwmor Pobol Capel. Mae’n byw yn Borth y Gest ers nifer o flynyddoedd.

Yn disgrifio’r lyfr, dywedodd William: “Casgliad sydd yma o fyfyrdodau yn ymwneud a’r Nadolig a’r flwyddyn newydd.

“Cyhoeddwyd rhai o bryd i’w gilydd mewn ambell gyfrol o’r eiddof ar hyd y blynyddoedd.

“Darlledwyd rhai ar Radio Cymru, ymddangosodd eraill mewn papur a chylchgrawn ac mae ambell un yn gweld goleuni dydd am y tro cyntaf.

“Corlannwyd y cyfan ynghyd yn gyfrol fechan yn y gobaith y byddent o beth diddordeb i ambell ddarllenydd ar ddiwedd blwyddyn arall fel hyn.

“Yng ngeiriau’r diweddar J T Jones: ‘Roedd pob sbrigyn celyn coch, Ei annirnad wen arnoch!’”

Cafodd y lyfr ei lansio ar nos Wener, 17 Tachwedd, yn festri Capel y Porth, Porthmadog, yng nghwmni’r Parch Harri Parri, J Richard Williams a gwesteion arbennig eraill.