Gyda’r nosweithiau yn tywyllu ynghynt a thymor yr hydref yn ei anterth, mae un o nosweithiau mwyaf dychrynllyd y flwyddyn yn prysur agosáu.

Os ydych yn mwynhau straeon arswyd ac yn hoff o ddarllen am brofiadau ysgytwol y rhai hynny sydd â’r ddawn i gyfathrebu ag ysbrydion, dyma’r gyfrol i chi.

Yn wir, dyma’r llyfr perffaith i’w ddarllen yng ngolau cannwyll o flaen tanllwyth o dân ar Nos Calan Gaeaf.

Yn nhyb rhai, ar Nos Calan Gaeaf y mae eneidiau o’r tu hwnt i’r llen yn gallu croesi yma atom ni yn gwbl ddidrafferth.

Ond mewn gwirionedd, gall hynny ddigwydd unrhyw bryd ac ar unrhyw adeg o’r flwyddyn yn ôl Elwyn Edwards.

Yn ysbrydegydd profiadol o’r Bala, mae ysbrydion yn cael eu denu ato’n gyson.

Meddai: “Gall ysbryd ymddangos mewn unrhyw fan ar unrhyw bryd.

“Weithiau, daw’r ysbryd atom i gael sgwrs yn unig, dro arall, daw atom gan fod rhywbeth yn ei boeni.”

Wrth egluro sut mae hynny’n digwydd, meddai ymhellach: “Mae’n ceisio cysylltu’n gyntaf drwy wneud i bethau rhyfedd ddigwydd – pethau na ellir eu hesbonio.”

Ac yntau wedi meithrin y ddawn ers dros deng mlynedd ar hugain, yn ei gyfrol newydd mae’n adrodd ychydig o’i hanesion mwyaf diweddar wrth iddo gyfathrebu ag eneidiau o’r tu hwnt i’r ffin.

Mewn 10 pennod, cawn hanesion arswydus rhai lleoedd sydd wedi eu haflonyddu gan ysbrydion, megis swyddfeydd y cyngor yng Nghaernarfon a Gwesty’r Llew Gwyn yn y Bala.

Mae yma straeon hefyd am ysbrydion enwog, yn eu plith, yr emynyddes Ann Griffiths a’r ferch alarus Jane Williams o Gynwyd – neu’r ‘Eneth Gadd ei Gwrthod’ yn ôl y gân werin boblogaidd. Yn llawer o’r ysgrifau, yr hyn a ddisgrifir yw’r profiad unigryw o gael ysbryd yn ceisio meddiannu’r sawl sy’n cysylltu; hynny yw, yr ysbyd yn ymrithio ag Elwyn a hynny’n gwbl annisgwyl ar brydiau.

Adroddir hefyd am brofiadau ambell i gyfryngydd arall sydd wedi bod gydag Elwyn ar ei ymweliadau, a chawn flas o’r gwahanol ddulliau a ddefnyddir yn y maes cyfrin hwn wrth geisio cysylltu ag ysbrydion.

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys ychydig o hen luniau o bobl ac adeiladau i ddod â’r hanesion hyn yn fyw i’r darllenydd a’u gwneud hyd yn oed yn fwy iasol.

Mae’r chwilfrydedd ynom ni oll i wybod mwy am ddirgelwch y goruwchnaturiol.

Yn y gyfrol hon o ysgrifau, cawn glywed am brofiadau cyfryngydd sydd wedi llwyddo i gyfarfod â sawl enaid aflonydd o’r gorffennol sy’n methu â chroesi i’r ochr draw, a chawn glywed hefyd sut y mae’n llwyddo i’w tywys a’u helpu i gyrraedd pen eu taith.

• Ysbrydion, Elwyn Edwards, Cyhoeddiadau Barddas, £8.95.