Madam,

Yn ddiweddar cefais y fraint o weld ysgolion lleol yn perfformio rhai o ddramâu Shakespeare yn Theatr y Mwldan, Aberteifi.

Fel cyn athro yn Ysgol Dyffryn Teifi, y pleser mwyaf i mi oedd cynhyrchiad hynod broffesiynol a dilychwyn o Romeo a Juliet gan Ysgol Bro Teifi. Dywed hyn lawer am safon uchel adran ddrama’r ysgol, ac mae’n argoeli’n dda i’r dyfodol.

Ers tro byd, mae athrawon yn cael eu llethu gan ofynion biwrocratig di-fudd a jargon diystyr. Pe cawsant lonydd unwaith eto i ddysgu, mi fyddai’n disgyblion yn llawer mwy tebygol o gael profiadau addysgol aruchel a gwefreiddiol fel y cafwyd yn y perfformiad hwn.

Yn gywir,

C Lewis, Rhydlewis.