BYDD ffilm fer sydd wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol yn cael ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf y mis hwn.

Mae Teth, a gafodd ei chynhyrchu gan Beastly Media ar gyfer S4C, wedi teithio’r byd mewn amrywiol ddangosiadau a gwyliau.

Nawr, am y tro cyntaf, bydd yn cael ei darlledu ar deledu ar 8 Ionawr am 22.15, ac ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer o’r un dyddiad.

Mae’n dilyn stori Ioan a’i dad, sydd yn addasu i’w perthynas newydd fel tad a mab yn dilyn llawdriniaeth top Ioan.

Dyma’r ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei dangos yn India a Tseina, ac mae hi wedi ennill gwobrau gan gynnwys Ffilm LHDT Orau Gŵyl Ffilmiau Byrion California, Ffilm LHDT+ Orau Gŵyl Ffilmiau Byrion Canol Tref Dinas Efrog Newydd a Ffilm Fer Cwiar Orau yn Queer-Streifen ym Münster, Yr Almaen.

Ymhlith y gwyliau eraill lle mae’r ffilm wedi ei dangos, mae Gŵyl Ffilmiau Cwiar Beijing, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Oslo/Fusion a Gŵyl Ffilm Trawsryweddol San Francisco, ac mae’n parhau i greu sŵn ledled y byd.

Leo Drayton ysgrifennodd y ffilm, gyda Peter Darney yn cyfarwyddo.

Cafodd ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Newport Beach, Califfornia, a groesawodd 80,000 o bobl eleni.

Yn ogystal, aeth y ffilm i Frameline: Gŵyl Ffilm LHDTC+ Ryngwladol San Francisco, sef yr ŵyl ffilmiau cwiar fwyaf a hynaf yn y byd, gyda dros 60,000 yn bresennol yno.

Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf ar noson agoriadol Gŵyl Iris 2024, ac fe gafodd ei dewis ar gyfer gŵyl BFI Flare y llynedd, sef yr ŵyl ffilmiau cwiar fwyaf a hynaf yn Ewrop.

Dywedodd Guto Rhun, comisiynydd cynulleidfaoedd Ifanc S4C: “Ar ôl taith lwyddiannus o gwmpas rhai o wyliau ffilm LHDTC+ mwya’r byd, mae’n wych bod cynulleidfaoedd S4C yn cael mwynhau Teth am y tro cyntaf.

“Mae adrodd straeon pobl o bob cymuned yn allweddol ac yn profi’n wirioneddol bod S4C i bawb.”

Ychwanegodd Geraint Evans, prif weithredwr S4C: “Mae ehangu gwylio gyda’n cynnwys – a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd – yn un o amcanion S4C ac mae Teth yn enghraifft berffaith o gynnwys sydd wedi teithio, gan ennill bri ar draws y byd a rhoi llwyfan rhyngwladol i’r Gymraeg.”

Dyma rhestr lawn o wyliau lle cafodd Teth ei dangos yn ystod 2025:

· Gwobr Iris Prize (noson agoriadol ac Iris ar Grwydr)

· BFI Flare

· Gŵyl Ffilm Cwiar Beijing

· Gŵyl Ffilm Ryngwladol Oslo/Fusion

· Gŵyl Ffilm Trawsryweddol San Francisco

· Expo Ffilm Cwiar Sardinia

· Out & Loud- Gŵyl Ffilm Cwiar Ryngwladol Pune

· Gŵyl Ffilm Queer North

· Out on Film- Gŵyl Ffilm LHDTC Atlanta

· Queer Wave: Gŵyl Ffilm LHDTCIA+ Cyprus

· Frameline: Gŵyl Ffilm LHDTC+ Ryngwladol San Francisco

· Gŵyl Ffilm Cwiar Outsouth

· Gŵyl Ffilm Newport Beach

· QUEER-Streifen Regensburg

· Gŵyl Ffilmiau Byrion Canol Tref Dinas Efrog Newydd

· Cinema Diverse: Gŵyl Ffilm LHDTC Palm Springs

· Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin

· Roze Filmdagen: Gŵyl Ffilm LHDTC+ Amsterdam

· Pink Screens: Gŵyl Ffilm Cwiar Brwsel

· Taiwan International Queer Film Festival

· Real Desires: Chennai International Queer Film Festival

· Cal Film Festival – California International Short Film Festival

· Pride Film Festival

· Way Out West Film Fest

· Q-Fest (UW-Eau Claire)

· Qu’ART Ottawa