Madam,
Bydd Ysgol y Brithdir yn cau ei drysau am byth fis Gorffennaf eleni, ac er mwyn dathlu’r holl flynyddoedd o addysg a fu yn y Brithdir, cynhelir dau gyngerdd yn neuadd y pentref ar nos Fercher, 21 Mehefin. Bydd cyngerdd gan y plant am 5.30 gyda phaned, cyfle i gael sgwrs a gweld arddangosfa luniau am 6.30 (a chyfle efallai i’r plant lleiaf fynd i’w gwelyau!), cyn i gyn-ddisgyblion (ifanc a chryn dipyn hyn – ond dawnus) ein diddanu o 7.30 ymlaen. Croeso i bawb ddod i’r ddau gyngerdd.Rydym yn chwilio am luniau ac atgofion ar gyfer yr arddangosfa. Efallai bod gennych hen luniau mewn drôr, ac os felly, mae Gwerfyl Price, Hafod y Meirch, Tabor, Dolgellau LL40 2RD wedi cynnig sganio’r lluniau a dychwelyd y rhai gwreiddiol atoch yn syth. Gallwch hefyd yrru ebost: [email protected]
Efallai yr hoffech rannu eich atgofion o’ch dyddiau ysgol ar ffurf cerdd, pennill neu baragraff neu ddau – neu ar lafar yn ystod y cyngerdd. Rhowch wybod i mi ar [email protected]
Yn y cyfamser, rhowch y cyngerdd yn y dyddiadur a rhannwch y wybodaeth gydag unrhyw gyn-ddisgyblion eraill os gwelwch yn dda. Bydd cyfle i archebu cofrodd ar y noson hefyd.
Yn gywir
Bethan Gwanas
Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethol Ysgol y Brithdir.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.