Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi honni wrth S4C mae twyll etholiadol oedd yn gyfrifol am ei atal rhag dychwelyd i’r Tŷ Gwyn yn 2020.

Daeth ei sylwadau tra'n siarad gyda’r newyddiadurwr Maxine Hughes ar gyfer rhaglen ddogfen Trump: Byd Eithafol fydd ar S4C ar nos Sul 11 Mehefin am 9.00.

Wrth gael ei holi yn ei gartref yn Mar-a-Lago, Florida, mae Donald Trump yn beio ei fethiant i gael ei ail-ethol ar dwyll, er fod pob ymchwiliad yn dweud i’r gwrthwyneb.

Dywedodd Donald Trump: “It’s very simple – we got many more votes...I think the big thing we have to do is stop the cheating, we have to stop the fraud, stop the cheating.”

Mae’r thema yma yn un o brif bynciau trafod ymysg ei gefnogwyr mwyaf ffyddlon.

Ar y rhaglen, mae Maxine yn cwrdd â rhai o’r cymeriadau sy’n dilyn y cyn-Arlywydd o le i le fel rhan o’r mudiad MAGA (Make America Great Again). Criw sy’n cael eu hadnabod fel y Front Row Joe’s.

Er yr holl honiadau sydd yn erbyn Donald Trump, mae miloedd o Americanwyr yn parhau i ddangos eu cefnogaeth ffyddlon drwy deithio ar draws gwlad, gwario miloedd o ddoleri a rhoi'r gorau i’w swyddi er mwyn mynd i’w ralïau.

Mae Maxine Hughes yn newyddiadurwr yn Washington
Mae Maxine Hughes yn newyddiadurwr yn Washington (Submitted)

Meddai Adam, un o’r Front Row Joe’s: “I’ve driven up to 18-19 hours for a rally...We’ve done rain, we’ve done snow, we’ve done heat – it doesn’t bother us. We will always be there for our President.”

Mae Maxine Hughes yn newyddiadurwr yn Washington ac yn wyneb cyfarwydd dros y byd erbyn hyn ar ôl ei gwaith gyda’r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney ar ôl iddyn nhw brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Dyma fydd y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd o’r enw Byd Eithafol, sydd yn edrych ar y byd trwy lens Gymreig.

Meddai Maxine: “Ddylai ni ddim cyfyngu ein dewisiadau o ran y cynnwys rydyn ni'n ei wneud neu yn ei wylio. Ddylai ni ddim gorfod troi at sianeli Saesneg i weld pobl uchel eu proffil. Dyna pam rydyn ni'n mynd ar ôl rhai o’r bobol mwyaf dylanwadol yn y byd."

Trump: Byd Eithafol

Nos Sul 11 Mehefin, 9.00 S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a platfformau eraill Cynhyrchaid Alpha i S4C