MAE aelodau Cyngor Ysgol Llanbedrog wedi cael syniad cynhyrfus yn ddiweddar ac yn gofyn i chi eu helpu drwy rannu eich creadigrwydd a’ch syniadau.

O ganlyniad i’r gwaith adnewyddu sylweddol i adeilad yr ysgol dros y misoedd diwethaf, mae’r Cyngor Ysgol wedi penderfynu y buasai’n amser gwych i fabwysiadu logo newydd sbon i’r ysgol - ysgol newydd, logo newydd.

Gan fod y logo cyfredol wedi bod gan yr ysgol ers blynyddoedd maith bellach, cyflwynodd y Cyngor Ysgol eu syniad i’r Llywodraethwyr ym mis Rhagfyr, a chytunwyd yn unfrydol ei fod yn syniad penigamp!

Er mwyn cael y logo gorau a mwyaf slic mae’r disgyblion yn gofyn yn garedig i’r gymuned leol gynnig eu syniadau am logo gwreiddiol, modern sydd yn berthnasol i’r ysgol a phentref Llanbedrog.

Mae’r plant wedi meddwl am rai meini prawf i’r lluniadau; rhaid i’r logo fod yn amlinell lliw du yn unig (dim lliw), rhaid cynnwys enw Ysgol Llanbedrog yn amlwg a chlir, rhaid i’r logo fod yn berthnasol i hanes, tirlun neu ddiwylliant Llanbedrog.

Croesewir syniadau am arwyddair i gyfleu gweledigaeth, gwerthoedd a dyheadau yr ysgol, i gyd-fynd â’r logo, fel sydd gan rai ysgolion yn barod.

Gosodwyd 1 Mawrth fel y dyddiad cau ar gyfer anfon y syniadau i’r ysgol, gan gynnwys enw, cyfeiriad a rhif ffôn.

Bydd y Cyngor Ysgol yn dewis rhestr fer ac yna yn cyflwyno eu dewis i’r llywodraethwyr a’u cyd-ddisgyblion er mwyn penderfynu ar y logo terfynol. Edrychwyd ymlaen i allu rhannu’r logo newydd cyn gwyliau’r Pasg.