ROEDD Neuadd Hughes-Thomas yn Ysgol Uwchradd Botwnnog dan ei sang gyda disgyblion, cyn-ddisgyblion, athrawon presennol a chyn-athrawon a chyfeillion i’r ysgol yr wythnos ddiwethaf i ddathlu llwyddiant dau cyn-ddisgybl yn Eisteddfod yr Urdd Sir eleni.
Enillodd Iestyn Tyne y Goron a Lois Llywelyn Williams y Fedal Ddrama.
Daeth pobl Pen Llyn at ei gilydd i ddathlu hefo’r ddau unigolyn hynod dalentog yma.
Trefnwyd y noson gan Esyllt Maelor, pennaeth yr adran Gymraeg, a gweddill criw yr adran.
Yn ystod y noson cafwyd geiriau caredig gan gyn-prif athrawon cynradd y ddau, sef Nia Williams o Ysgol Gynradd Morfa Nefyn lle roedd Lois yn ddisgybl, a Gwyndaf Jones a oedd yn brifathro yn Ysgol Pentreuchaf pan oedd Iestyn yn ddisgybl yno.
Hefyd cafwyd geiriau canmoliadwy iawn gan eu darlithwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor – Penrallt, Pwllheli, sef Bethan Mair Hughes.
Siaradodd am Iestyn tra cafwyd gair neu ddau gan Mair Gruffudd, tiwtor drama yn y coleg, am Lois.
Derbyniodd y ddau rodd yn ystod y noson, cyflwynwyd Englynion oedd wedi ei ysgrifennu gan Huw Erith o Aberdaron i Iestyn, tra derbyniodd Lois Gywydd wedi ei ysgrifennu gan Gareth Williams o Botwnnog.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.