YN DDIWEDDAR, cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar gyfer Cystadleuaeth Codio Cymru 2018, ar safle Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.
Nod y gystadleuaeth oedd hyrwyddo, cyfrifiaduro a rhaglennu ymysg plant cynradd ac uwchradd ar draws Cymru gyfan wrth osod her i’r plant i greu gem gyfrifiadurol yn dathlu unrhyw agwedd o Gymreictod, gan ddefnyddio’r rhaglen Scratch.
Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal ac roedd yn lwyddiant ysgubol, gyda phlant o bob cwr a chornel o Gymru yn cystadlu.
Noddwyd y gystadleuaeth gan Grwp Llandrillo Menai, Canolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor, BT Cymru, Cyngor Gwynedd, GwE, Rondo Media a Cyber Lambs.
Bydd y gystadleuaeth yn cyfrannu yn sylweddol at nod Llywodraeth Cymru o gael rhagor o blant a phobl ifanc i mewn i feysydd twf yma yng Nghymru, a hefyd yn gyfle i sicrhau bod plant yn cael eu cyflwyno i sgiliau sydd â gofyn uchel amdanynt.
Mae’r sector creadigol yn sector twf i Lywodraeth Cymru ac mae CMD wedi bod ynghylch y maes ers sawl blwyddyn bellach ac yn arwain y maes ar hyfforddi a datblygu sgiliau digidol yng Ngogledd Cymru.
Meddai Alwen Williams, cyfarwyddwraig BT Cymru: “Mae BT yn sylweddoli’r pwysigrwydd o greu diddordeb ymysg plant a phobol ifanc i ddefnyddio a chreu technoleg a da ni yn falch i gael y cyfle i gyd-weithio gyda Choleg Meirion-Dwyfor ar y cynllun cyffroes yma fydd yn rhoi sgiliau hanfodol i blant Cymru.
“Mae codio yn sgil hynod bwysig yn y byd technolegol sydd ohoni heddiw, ac mae angen datblygu pobl ifanc i fod yn grewyr digidol yn ogystal â defnyddwyr digidol” meddai Gwennan Richards, trefnydd a chydlynydd y gystadleuaeth.
Ychwanegodd: “Mae Cystadleuaeth codio Cymru 2018 wedi rhoi codio ar fap Cymru o ddifri ac wedi bod yn gyfle i ddathlu’r dalent a’r sgiliau sydd ymhlith plant a phobl ifanc Cymru. Mae’n lwyfan ar gyfer dangos i’r byd bod gennym ni yma yng Nghymru y bobl ifanc all ddiwallu anghenion cwmnïau lleol a rhyngwladol yn y meysydd twf yma”.
Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth eleni, bwriedir ei chynnal yn flynyddol o hyn allan.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â [email protected]




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.