Atseiniodd rhai o ganeuon enwocaf Dewi 'Pws' Morris o amgylch Maes y Brifwyl wrth i gyfeillion yr actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail dalu teyrnged iddo.

Bu farw Dewi yn 76 oed yn dilyn cyfnod byr o salwch ychydig ddyddiau ar ol yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd.

Neithiwr bu cyngerdd arbennig, Nwy yn y Nen, yn galluogi'r gynulleidfa gofio Dewi a chlywed eto a chyd-ganu rhai o'i ganeuon poblogaidd.

Roedd nifer fawr o'r rhai ddaeth i Lwyfan y Maes ar noson braf yn gwisgo neckerchief coch, dilledyn nodweddiadol o Dewi Pws.

Dywedodd ei wraig, Rhiannon, byddai Dewi wrth ei fodd gyda'r syniad o gyngerdd o'i ganeuon.

"Byddai wedi gwirioni! Efallai na fyddai'n deall pam eu bod yn canu ei ganeuon ond y byddai'n ei ystyried yn anrhydedd fawr. Byddai wrth ei fodd hefyd yn gwybod na fuasai disgwyl iddo gymeryd rhan yn y cyngerdd a'i fod yn cael eistedd yn ôl a mwynhau."

Monday August 04 2025 

Eisteddfod Wrecsam 2025
Cleif Harpwood ar y llwyfan nos Lun (Dafydd Nant / Eisteddfod Genedlaethol)

Dewi Pws oedd prif leisydd y grŵp arloesol Y Tebot Piws. Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu'r supergroup Cymraeg cyntaf - y band roc, Edward H Dafis.

Ymhlith ei gyfansoddiadau yw Lleucu Llwyd - un o ganeuon mwyaf poblogaidd Y Tebot Piws - a Nwy yn y Nen, cân fuddugol Cân i Gymru 1971.

Ychwanegodd Rhiannon fod y synaid am y cyngerdd wedi dod o'i gyfeillion yn fuan wedi ei farwolaeth.

"Cleif (Harpwood) gynigiodd y syniad yn gyntaf ac roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad dda ac fe aeth ymlaen i drefnu pethau. Mei Gwynedd sy'n gyfrifol am ddewis y caneuon a pwy sy'n eu canu," meddai.

Un o'r rhai gymerodd rhan yn y cyngerdd arbennig oedd y gantores a'r cyflwynydd Meinir Gwilym:

Dywedodd: "Wnes ddod i adnabod Dewi Pws yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

"Roedd yn dod i gigs Pedair yn aml ac wrth gwrs, drwy fod yn Dewi, roedd yn rhaid iddo dynnu coes a dweud ambell i jôc ond roedd yn dangos brwdfrydedd mawr tuag at yr hyn rydym yn ei wneud ac roedd hynny yn ein llewni a hyder.

"Mae'n fraint anhygol ac emosiynol hefyd i gael gwahoddiad i gymeryd rhan yn y cyngerdd i dalu teyrnged iddo."

Cytunodd Rhiannon y byddai'n noson emosiynol.

"Mae caneuon Dewi yn cael eu chwarae ar y radio yn aml ac yn cael teimladau cynnes wrth eu clywed a gwybod nad ydyw wedi ei anghofio," meddai.

Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ac yn y ffilm deledu eiconig, Grand Slam. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys llyfrau i blant a bu'n Fardd Plant Cymru yn 2010.

Fe'i dderbynwyd i Orsedd Cymru a chymerodd ran yn seremoniau'r Orsedd yn Eisteddfod Llyn ac Eifionydd.