HYFRYDWCH oedd cael tystio bod Eisteddfod Gadeiriol Chwilog a gyn-haliwyd ar 21 Ionawr wedi denu llu o gystadleuwyr o bell ac agos, gyda’r safon yn uchel iawn.

Mae’r pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gafwyd gan yr ysgol leol; Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli; Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ac Ysgol Uwchradd Botwnnog Derbyniwyd 12 ymgais ar gyfer cystadleuaeth y gadair, ar y testun “Tir” a’r bardd buddugol oedd Robin Hughes, Llanfyllin, ond yn wreiddiol o Pwllheli.

Yn ystod y blynyddoedd, enillodd 38 o gadeiriau a dwy goron, a hon oedd yr ail gadair iddo ennill yn yr eisteddfod hon.

Ymgeisiodd 30 yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc dan 19 oed a’r enillydd oedd Luned Rhys, Llanarmon, sy’n ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.

Yn flynyddol cyflwynir tarian i’r cystadleuydd uchaf ei safon yn y cystadlaethau llenyddol sy’n gyfyngedig i’r ysgol leol a’r enillydd am yr ail flwyddyn yn olynol oedd Lowri Glyn Jones.

Yn flynyddol, rhoddir cwpan a rhodd ariannol gan Manon a’r plant er cof am Dr Gwion Rhys i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yng nghyfarfod y prynhawn a’r enillydd oedd Deio Rhys, Llanarmon.

Yn ogystal, yng nghyfarfod yr hwyr, rhoddwyd gwobr o £50 i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yn yr oedran rhwng 15 a 25 a’r enillydd oedd Heulen Cynfal, Parc, Y Bala.

Y llywydd oedd Magwen Pughe, Cemaes, Machynlleth; arweiniwyd y gweithgareddau gan Leila Salisbury, Heledd Williams, Rhian Williams a Linda Williams.

Y beirniaid oedd: Cerdd a Cherdd Dant, Huw Foulkes, Caerdydd.Llefaru, Sian Teifi, Llanfaglan, Caernarfon.

Barddoniaeth a Llenyddiaeth, Y Prifardd Guto Dafydd, Pwllheli.Arlunio, Bethan Llwyd, Chwilog.

Cyfeilyddion, Catrin Alwen, Chwilog a Dafydd Lloyd Jones, Bae Colwyn. Swyddogion y pwyllgor: cadeirydd, Margaret Jones; is-gadeirydd, Delyth Davies; trysorydd, Mari Jones ac ysgrifennydd, Gwyn Parry Williams.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]