Dywed trefnwyr Eisteddfod Powys Edeyrnion a Phenllyn 2023, iddynt gael eisteddfod hynod lwyddiannus, ac i bob dim fynd yn esmwyth, yn ôl y disgwyl, gyda bron i 250 o unigolion, a 50 o gorau neu grŵpiau yn cystadlu.

Wrth gychwyn trefnu, ychydig a wyddent am yr heriau wynebai’r Pwyllgor Gwaith, gan i’r trefnu gychwyn cyn bod sôn am Covid19 na chyfnod clo, ond wrth ddod allan o’r cyfnod hwnnw, brwdfrydedd, dycnwch a chyd-weithio sicrhaodd eisteddfod mor lwyddiannus.

Yn ôl Rhys Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: “Mae’r Eisteddfod wedi ceisio sicrhau cynnwys pawb yn ei gweithgareddau, o ddisgyblion ysgol yr ardal ac aelodau gwahanol gymdeithasau, trwy eu cynnwys mewn cystadlaethau, ac i fod yn rhan allweddol o’r seremonïau.

"Mae cwmniau lleol wedi elwa o’r Eisteddfod, boed yn gontracwyr trydanol, arlwywyr, siopau, ffotograffwyr, gwestai, a lletyau. Cyfarfu’r pwyllgorau yn gyson mewn neuaddau pentref, canolfannau cyfarfod,neu festrioedd capel, a gwerthfawrogwn bob hwylustod a gafwyd.

"Un o’r nosweithiau cymdeithasol roddodd y pleser mwya’ i mi, oedd honno yn Neuadd Carrog, sef noson i ddysgwyr Cymraeg yr ardal. ‘Roedd brwdfrydedd ac angerdd y siaradwyr Cymraeg newydd a welais ac a glywais yn ystod y noson, yn heintus, a gobeithio wir bod yr Eisteddfod wedi chwarae rhan fechan i helpu ac i annog y dysgwyr ar eu taith i ddysgu’r iaith.

"Dwi’n sicr y bydd yr Ŵyl hon wedi creu argraff ar drigolion Edeyrnion a Phenllyn, ac y bydd gwaddol yr Eisteddfod i’w weld yn gryf.

"Wrth gwrs, fyddai ’r un Eisteddfod heb fyddin fechan o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i sicrhau ei llwyddiant."

Cynhaliwyd yr Eisteddfod dros gyfnod o ddau ddiwrnod, ac ar y nos Wener , coronwyd Gareth Wiliam Jones, Bow Street am waith creadigol heb fod dros 10,000 o eiriau ar y thema ‘Man Gwyn’, ac yna brynhawn Sadwrn, cadeiriwyd Hannah Roberts, Caerdydd am gerdd rydd ar y testun ‘Egin’, a chyhoeddwyd y cynnyrch yn y Cyfansoddiadau.

Ychwanegodd Rhys Evans: “Hoffwn ddiolch i bob un wan jac a fu mor barod i weithio mor galed dros y misoedd diwethaf, gan ddiolch yn ogystal wrth gwrs i bob cystadleuydd am eu cefnogaeth, i wneud yr Eisteddfod yn un mor arbennig.”