Cynhaliwyd penwythnos o gystadlu brwd dros Wyl Calan Mai ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, gyda chystadlu o’r safon flaenaf yn ôl y beirniaid – Sion Goronwy, Catrin Darnell, Y Prifardd Ceri Wyn Jones, Geraint Roberts, Garry Owen a Manon Richards.
Roedd y pafiliwn yn atseinio gyda’r cystadlaethau offerynnol ar y nos Wener a’r safon yn anhygoel. Roedd yn braf gweld cymaint o blant ac ieuenctid yn cystadlu ar y Sadwrn hefyd.
Llywydd yr ?yl eleni oedd Eileen Sinnett Jones o Benparcau (Penlan, Trisant gynt), merch sydd â’i gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal, ac un o ffyddloniaid yr eisteddfodau yn y Bont ar hyd y blynyddoedd. Cafwyd ganddi araith a gofir am beth amser, yn sôn am ei hatgofion o’r dyddiau cynnar pan sefydlwyd yr eisteddfodau yn y chwedegau, a’r rhan a oedd hi’n gymryd fel stiward pan oedd yn aros gyda’i pherthnasau’n y Bont.
Cyflwynwyd penillion a basged o flodau iddi gan ddau ddisgybl o Ysgol y Bont, Delun Davies ac Ifan Pugh.
Enillwyd y goron gan Terwyn Tomos o Landudoch, a Thlws yr Ifanc gan Glain Llwyd Davies o Landre, ond siom oedd i ddeall nad oedd teilyngdod am y gadair y tro yma.
Am fwy o luniau a chanlyniadau o’r penwythnos, gwelwch bapur wythnos yma, yn siopau ar ddydd Mercher





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.