Ar nos Fercher, 20 Medi cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yn Neuadd Rhydypennau, Bow Street.
Dyma’r gyngerdd cyntaf cafodd ei gynnal ers y cyfnod clo a hyfryd oedd gweld y neuadd yn gyfforddus lawn.
Yr artistiaid oedd wedi denu’r gynulleidfa fawr i’r gyngerdd oedd dau gôr ac un o sêr adloniant cyfoes Cymru.
Côr o Awstralia agorodd y wledd gerddorol yn y ddau hanner o dan ei cyfarwyddwr cerdd Tom Buchanan. Mae’r côr, sef Mornington Peninsula Welsh Ladies Choir, yn dod o ddinas Melboune ac maent ar daith tair wythnos trwy Gymru. Roedd ei raglen yn cynnwys caneuon yn rhai o ieithoedd brodorol Awstralia, yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Mae tair o’r aelodau’n medru’r Gymraeg ac roedd graen ar y canu ac ar eu hynganiad o’r geiriau yn glir iawn.
Yn agosach at Bow Street daeth Côr Meibion Aberystwyth atom a chawsom rhaglen amrywiol ganddynt hwy hefyd o dan eu harweinydd Alwyn Evans.
Fel mae’n digwydd roedd rhaglenni’r corau yn cynnwys un darn oedd yn gyffredin a rhoddod hynny ychydig o naws “gystadleuol”, gyfeillgar i’r datganiadau.
Seren unigol y noson oedd y canwr adnabyddus Rhys Meirion. Doedd dim angen ei gyflwyno a chafodd dderbyniad gwresog iawn gan y gynulleidfa. Roedd ei raglen yntau hefyd yn un ddeniadol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddarnau.
Diweddglo’r noson oedd y ddau gôr a Rhys Meirion yn uno i ganu gyda’i gilydd un o ffefrynnau pawb sef, Danfonaf Angel o waith Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn. Clowyd y noson trwy ganu anthemau Awstralia a Chymru.
Trefnwyd y noson gan Haka Entertainment a’r farn gyffredinol ar ddiwedd y gyngerdd oedd mai braf byddai cael achlysur tebyg eto i’r dyfodol i ddenu pobl i fwynhau adloniant byw yn y neuadd.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]