Eisteddfod Gadeiriol
CYNHALIWYD yr eisteddfod yn y Neuadd Goffa ar 25 a 26 Medi. Plant yr ysgol gynradd fu’n cystadlu ddydd Gwener a braf oedd clywed eu datganiadau.Beirniaid yr adran gyfyngedig oedd Carys Mai (cerdd) a Lowri Jones (llefaru).Dydd Sadwrn cynhaliwyd yr Eisteddfod Agored yng nghwmni’r beirniaid Davinia Davies, Bancffosfelen (cerdd), y Parch Eirian Wyn Lewis, Mynachlog Ddu (llefaru) a Trefor Pugh, Trefenter (cerdd dant ac alaw werin). Yn cyfeilio dros y ddeuddydd oedd Eirian Jones, Cwmann.Y llywydd eleni oedd Dwynwen Jones, Hen Ty’r Ysgol, Cilcennin. Ganwyd Dwynwen yn Nihewyd a symu-dodd i Felinfach pan yn saith oed. Mynychodd Ysgolion Cynradd Dihewyd a Felinfach ac Ysgol Gyfun Aberaeron. Mae yn briod â Jason a chanddynt ddau o fechgyn, Siôn ac Iolo.Cyflwynwyd Dwynwen gan y Parch Stephen Morgan a chafwyd ganddi araith ddiddorol yn olrain ei hanes pan yn byw yn Awelfa ger y ffatrin laeth. Dywedodd fod yno gymuned glos a chriw o blant yn siarad Cymraeg a byddent yn cyfarfod yn reolaidd i gymdeithasu. Soniodd am y cyfleuon a gafodd drwy’r ysgol gynradd, y theatr, yr eglwys a Chlwb y Ffer-mwyr Ifanc. Diolchodd y Parch Morgan iddi am ei phrese-noldeb, ei haraith ddiddorol a’i rhodd hael tuag at yr eisteddfod. Prif seremoni’r dydd oedd Cadeirio’r Bardd yng ngofal y Parch Morgan. Enillydd y Gadair eleni oedd Carys Briddon, Tre’r-ddôl. Dyma’r bedwaredd gadair iddi en-nill yn Eisteddfod Felinfach. Derbyniodd gadair hardd o waith Gwyndaf Davies, Llety’r Dderwen. Cyrchwyd y bardd i’r llwyfan gan Cerian Evans a Gwenno Jones. Canwyd y corn gwlad gan ddau frawd, Osian a Bedwyr Davies a chyfarchwyd y bardd gan Parch Morgan a Helen Davies. Canwyd Cân y Cadeirio gan Gerallt Owen.Enillydd Tlws yr Ifanc oedd Rhian Evans, Tryal Bach, Llanon. Cyrchwyd hi i’r llwyfan gan Mared Davies ac Alaw Mair ac yn cyfarch oedd Alaw Fflur ac Ela Evans. Diolchodd y Parch Morgan i bawb fu’n gweithio mewn gwahanol ffyrdd i sicrhau llwyddiant yr wyl.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.