Cymdeithas Undebol Capel y Porth a Jerwsalem

NOS LUN, 15 Chwefror, cafwyd darlith gan y Parch Harri Parri gyda’r Parch Trefor Jones yn cynorthwyo. Croesawyd y ddau gan Ellis Evans. Darlith dan y teitl Gwn Glân a Beibl Budur a chafwyd darlith yn rhoi hanes y Parch John Williams, Brynsiecyn.

Roedd Parch Williams, Brynsiencyn yn un o bregethwyr mawr y Presbyteriaid yn ei amser, gyda lluoedd yn gwrando ar ei bregethau. Pan dorodd y Rhyfel Mawr allan yn 1914 credai Parch Williams ei fod yn ddyletswydd arno i grwydro’r wlad i recriwtio bechgyn ifanc Cymru. Fe laddwyd miloedd o’r bechgyn a beirniadwyd Parch Williams gan amryw o aelodau’r capeli Presbyteraidd. Ymunodd â’r fyddin ei hun, ond er na fu yn ymladd ei hun, credai rhai na chael ei wrthod i fyd i Ffrainc ddigwyddodd. Symudodd i Lerpwl i weinidogethu ac wedi i’w ferch briodi i deulu cyfoethog iawn, daeth yn gyfaill mawr i David Lloyd George a cheir sawl llun gydag ef tu allan i Downing Street. Yn ystod y ddarlith darllenodd y Parch Trefor Jones sawl darn o farddoniaeth ac ysgrifau eraill oedd yn feirniadol iawn o John Williams.Bu farw ar 1 Chwefror 1921 a chafwyd y gwasanaeth claddu y Brynsiencyn gyda’r capel yn orlawn. Claddwyd ef yn Llanfaes gyda’r bedd yn gyfagos i fedd John Elias o Fôn.