Draffts Berch
YN Y Ganolfan ar 17 Tachwedd cynhaliwyd yr Ornest Ddraffts flynyddol. Roedd cwpan dosbarth cyntaf eleni er cof am Twm Williams, Garnfadryn, a chyflwynwyd y cwpanau a’r tlysau gan ei fab D Williams, Cwmann. Y dyfarnwr oedd D J Griffith, Pwllheli. Roedd yna dri dosbarth. Enillwyr y dosbarth cyntaf oedd: 1, J D Jones, Pwllheli; 2, D Wil-liams, Cwmann; 3, H Parry, Amlwch. Ail ddosbarth: 1, D G Griffith, Pwllheli; 2, A Price, Abererch; 3, H Owen, Amlwch. Trydydd dosbarth: 1, R A Jones, Pwllheli; 2, R Parry, Pencaenewydd; 3, G Parry, Pencaenewydd. Carem ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd tuag at y noson i’w gwneud yn un llwyddiannus iawn.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.