Mae gemwaith i gofio Tryweryn wedi codi dros £2,000 i’r Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Elen Williams, o Manod, Blaenau Ffestiniog, wedi codi’r arian trwy wneud cadwyni efo’r logo Cofiwch Dryweryn a’u gwerthu ar-lein.

Dwedodd Elen: “Cychwynais drwy wneud un gadwyn Cofiwch Dryweryn i mi fy hun a rhoi llun ohono ar Facebook. Yn dilyn hyn daeth nifer helaeth o geisiadau gan ffrindiau ac eraill i mi wneud rhai iddynt (gan gynnwys creu keyrings), penderfynais y byddai’r arian yr oeddwn yn ei godi yn mynd at ryw elusen, oherwydd nifer o resymau dewisais Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae gwaith Elen wedi codi’r cyfanswm o £2,553.50 a gwnaeth gwrdd ag aelodau o Ambiwlans Awyr Cymru i gyflwyno’r siec.

“Mae’r swm yn parhau i godi, dwi bellach yn anelu at £3,000, rhoddais her i mi fy hun i godi £500 ar y cychwyn!!” ychwanegodd Elen.

See this week’s north editions, in shops and online on Thursday