YN ei wythfed nofel, mae’r awdur Daniel Davies yn rhoi gogwydd newydd, dychmygus, ar rai o hanesion a chymeriadau enwocaf ein cenedl ac yn chwalu’r hyn mae haneswyr traddodiadol wedi ei ysgrifennu hyd yma!
Mae Arwyr yn seiliedig ar gymeriadau yn hanes Cymru gan gynnwys Dafydd ap Gwilym, Hywel Dda a Llywelyn ein Llyw Olaf.
Ond dyw edrych yn ôl ddim yn beth newydd i’r awdur, gan fod cefndir hanesyddol i nifer o’i nofelau.
Medd Daniel, sy’n wreiddiol o Lanarth, ond bellach yn byw yn Penbontrhydybeddau, ger Penrhyncoch: “Dwi’n ymddiddori mewn hanes a’i ddylanwad ar y presennol ers imi gyfrannu at y ffansin hanesyddol Seren Tan Gwmwl yn oes yr arth a’r blaidd. Tynged y rheiny nad ydynt yn cofio’r gorffennol yw ail adrodd yr un camgymeriadau, a dyna fy mhryder am Gymru yn fy nofelau Gwylliaid Glyndwr, Allez Les Gallois ac Arwyr.”
Drwy’r gyfrol, daw hiwmor ffraeth Daniel i’r amlwg.
Mae stori Hywel Dda, er enghraifft, wedi ei hysgrifennu o safbwynt Angharad, ei ferch sy’n dair ar ddeg a thri chwarter oed, gydag adleisiau o gyfrol hynod boblogaidd o’r ‘80au The Secret Diary of Adrian Mole gan un o arwyr llenyddol, Daniel, sef Sue Townsend.
Trwy gyfrwng ei dyddiadur, cawn ar ddeall fod Angharad ap Hywel yn ferch ifanc glyfar a phenstiff, sydd â syniadau pendant yngl?n â hawliau merched yn ei chymdeithas. Ai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod cyfreithiau ei thad yn cryfhau statws y ferch?
Yn ôl Daniel Davies, mae’n mwynhau herio syniadau traddodiadol.
“Mae Hywel Dda’n cael digon o sylw yn Brut y Tywysogion ond dim ond tri gair mae ei wraig yn eu haeddu: ‘928. Bu farw Elen.’
“Cosodd hyn fy niddordeb yn nheulu Hywel, a cheisio dechrau unioni’r cam am ddiffyg presenoldeb menywod yn ein hanes.”
Mae’r cymeriadau y mae’r awdur wedi dewis ysgrifennu amdanyn nhw yn rhai amrywiol iawn ? yn ddynion a merched, yn frenhinoedd, beirdd a gwerinwyr.
Am yr erthygl llawn, gwelwch papur wythnos yma







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.