Cynhelir gweithdai clocsio a thwmpath i’r teulu yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd.

Mae’r gweithdai am ddim, yn awr o hyd, ac yn agored i bawb – o’r rhai mwyaf profiadol i’r rhai sydd erioed wedi gwisgo clocsiau o’r blaen. Cynhelir pedwar gweithdy ar gyfer gwahanol oedrannau a phrofiad:

● 10.30am: 6–13 oed (dechreuwyr)

● 11.45am: 6–13 oed (profiadol)

● 2pm: 14+ oed (dechreuwyr)

● 3.15pm: 14+ oed (profiadol)

Mae’r gweithdai dan ofal y clocswyr Tudur Phillips, Iestyn Gwyn Jones ac Alaw Griffiths.

Yn wreiddiol o bentref Bryn Iwan ger Castell Newydd Emlyn, ac yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Tudur Phillips yn edrych ymlaen at ddychwelyd at y Cardis am ddiwrnod o glocsio a dawnsio gwerin.

Mae clocsio’n rhan fawr o fywyd Tudur erioed, gan ddechrau’n aelod o Ddawnswyr Talog ac Aelwyd Hafodwennog, ac enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2008.

Mae bellach yn gweithio’n llawrydd, yn teithio ar draws y wlad yn ymweld ag ysgolion yn bennaf er mwyn cynnal gweithdai clocsio, clocsffit a thwmpathau.

Meddai Tudur: “Fi’n edrych mla’n yn fawr i ddod at griw Seithenyn - mae hi wastad yn braf dod nôl i Aber! Fi’n gobeithio y galla’ i ddenu mwy o glocswyr. Byddwch yn barod i drial tricie clocsio – fy hoff ran o’r grefft!”

Mae Iestyn Gwyn Jones yn gerddor ac yn un o’r tri brawd o Gaerdydd sydd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant wrth glocsio a dawnsio gwerin dros y blynyddoedd. Mae Iestyn wedi cael sawl cyfle i glocsio ar blatfformau rhyngwladol, gan gynnwys yng mhencampwriaeth dawns traddodiadol y byd yn Majorca, ac yn rhan o ddathlidau Gŵyl Dewi Disneyland Paris. Mae’r cyfle i arbrofi gyda’r stepio a herio’r traddodiad yn holl bwysig iddo ynghyd ag addysgu eraill o’r mwynhâd sydd i’w gael wrth ddawnsio.

Meddai Iestyn: “Dwi’n edrych ymlaen i gael diwrnod o ddathlu a mwynhau Clocsio gan ei fod e’n aml yn rhywbeth sydd yn anodd ei ffeindio mewn cyd-destun cymdeithasol.”

Mae Alaw Griffiths yn hyfforddi clocsio a dawnsio gwerin ers ugain mlynedd, gan ddechrau fel arweinydd grwpiau dawnsio Aelwyd Pantycelyn yn Aberystwyth. Aeth ymlaen i hyfforddi degau o blant ifanc yn Yr Wyddgrug gyda Chlocswyr Garmon cyn dychwelyd i Geredigion a hyfforddi pobl ifanc yn Nhalybont, ger Aberystwyth.

Ar ôl seibiant i fagu plant, sefydlodd Dawnswyr Seithenyn i grŵp o oedolion yn 2019 a dechreuodd wersi clocsio i blant yn 2022.

Mae Alaw wedi bod yn cystadlu ei hun ers ei bod yn saith oed ac wedi perfformio mewn gwyliau amrywiol ar hyd a lled Cymru yn ogystal ag yn Iwerddon, Ynys Manaw, Llydaw, a Prâg.

Mae hi’n gyn-enillydd y ddawns unigol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ddwywaith, ac yn edrych ymlaen at fynd â Seithenyn draw yno rhyw ddydd!

Meddai Alaw: “Dwi’n caru clocsio - y cystadlu, y gwyliau, a’r gwersi. Deni fel un teulu mawr yn Seithenyn! Be dwi’n ei fwynhau fwyaf ydi hyfforddi - pasio’r grefft ymlaen, a gweld y mwynhad ar wynebau’r rhai sy’n dysgu’r sgil. Deni’n chwerthin lot yn y gwersi, mae’n gymaint o donic!

“Dwi methu aros i groesawu pawb draw ar Dachwedd 4ydd. Mi fyddwn ni’n lwcus iawn o arbenigedd Tudur ac Iestyn - dwi’n edrych mlaen i ddysgu sawl tric ganddyn nhw! Mae croeso cynnes i bawb - mi gawn ni lond trol o hwyl efo’n gilydd!”

Yn dilyn y gweithdai, cynhelir twmpath yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau am 5pm dan arweiniad Twmpath Aberystwyth, sy’n cefnogi twmpathau cymunedol yn Aberystwyth ac o amgylch Ceredigion ers 2013. Maent hefyd yn cynnal twmpathau misol yn Neuadd y Buarth, Aberystwyth, ble mae gall pobl o bob oed a chefndir ymuno i fwynhau dawnsio traddodiadol Cymreig i gerddoriaeth fyw. Nid oes angen profiad a phartner arnoch!

Trefnir y diwrnod gan Ddawnswyr Seithenyn, grŵp dawnsio gwerin a chlocsio traddodiadol o Aberystwyth a sefydlwyd yn 2019. Enillodd Dawnswyr Seithenyn gystadleuaeth y grŵp clocsio yn yr Wyl Cerdd Dant yn 2022, a daeth Seithenyn Bach yn drydydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Mae’r grŵp yn mynd o nerth i nerth a bellach mae 25 o blant yn mwynhau dysgu clocsio bob nos Fawrth yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.

Mae llefydd yn brin felly y cyntaf i’r felin i sicrhau lle: 01970 623232