GWISGODD disgyblion Ysgol Edern mewn gwyrdd i godi arian at yr elusen NSPCC.
Cododd y plant yr arian wrth dalu £1 am wisgo dillad eu hunain a gwerthu tost amser chwarae.
Ond roedd un merch, Anna Williams (eistedd, canol) wedi mynd gam ymhellach i gwerthu bisgedi ‘Cryms’ wedi eu creu gan ei mam, a ‘headbands’ wedi eu creu gan y nain yn yr ysgol.
Roedd pawb yn ddiolchgar iawn i Anna a’i theulu am eu cyfraniad hael.
Diolch i ymdrechion y disgyblion, staff a rhieni fe wnaethpwyd £193 i’r elusen.
Uchod, gyda Anna, mae rhai o’r ddisgyblion yn eu dillad gwyrdd.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.