Mae na sawl brwydr heb gael ei hennill o ran hawliau i bobl anabledd yng Nghymru, yn ôl Mared Jarman cyflwynydd cyfres Y Frwydr: Stori Anabledd ar S4C.

Wythnosau wedi iddi ennill gwobr Torri Trwodd Bafta Cymru am y ddrama gomedi How This Blind Girl (BBC), mae Mared Jarman wedi gwneud cyfres o raglenni dogfen newydd ar anabledd i S4C; rhain fydd yn cychwyn cyfres o ddramâu comedi a rhaglenni dogfen yn nodi Mis Hanes Anabledd (16 Tachwedd – 16 Rhagfyr) ar S4C eleni.

Yn Y Frwydr: Stori Anabledd (Iau 16 Tachwedd 21:00), mi fydd Mared yn mynd ar daith i ddysgu am hanes anabledd yng Nghymru.

Yn y ddrama gomedi Bwmp gan Ciaran Fitzgerald, dewn i nabod Daisy, newyddiadurwraig ifanc anabl sy'n gwneud ei ffordd drwy heriau diwydiant 'ableist'  (Iau 16 Tachwedd 22:45yh).

Ar nos Wener 17 Tachwedd am 18:35yh, bydd Bex: Stori Efan; y diweddaraf mewn cyfres o ddramâu 20 munud arloesol am anhwylderau meddwl pobol rhwng wyth a 12 mlwydd oed. Mae’r gyfres Bex yn dilyn hanes wyth cymeriad ifanc â stori unigryw bob un i’w rannu, ac mae pob pennod ar gael ar iPlayer.

Bydd rhifyn arbennig o Pawb a’i Farn yn dod yn fyw o Gaerdydd nos Iau 14 Rhagfyr am 21:00. Bydd y cyfranwyr i gyd naill ai’n byw gydag anabledd neu’n ofalwyr, ac wedi profi’r gwasanaethau sydd ar gael. Ymysg y pynciau trafod bydd costau byw, troseddau casineb a sut gellir ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r gymuned anabledd.

Bydd pennod newydd o’r gyfres DRYCH; Stori Alys ar nos Sul 10 Rhagfyr, am 20:00. Yn y ddogfen emosiynol, ddirdynol yma sy’n llawn gobaith a dewrder, byddwn yn dilyn Alys ar ei siwrne i geisio dawnsio eto yn dilyn damwain adref lle collodd ei choes.

Ac i gloi fydd y rhaglen ddogfen Dylan a Titw i Ben Draw'r Byd, yn dilyn hanes taith Dylan, sy’n byw gyda’r cyflwr dystonia, i Ynys Enlli gyda’i ofalwr Titw (nos Iau 7 Rhagfyr, am 21:00).

Yn ogystal, mi fydd llwyth o raglenni eraill ar fywyd gydag anableddau ar gael ar Clic o ddydd Iau 16 Tachwedd. Ewch at y linc yma i weld y rhestr gyfan: https://www.bbc.co.uk/programmes/p0gm5zx2

Yn dilyn ei thaith i ddysgu am hanes anabledd yng Nhymru, daw Mared Jarman i’r casgliad bod cyfrifoldeb ar bawb i addysgu eu hunain am faterion yn ymwneud ag anableddau. 

Dywedodd Mared: “Mae’n bwysig bod ni’n deall ac yn dysgu gymaint a gallwn ni achos dyna sut mae newid yn digwydd. Os nag y’n ni’n siarad am anabledd, os nag y’n ni’n cael y sgyrsiau am pam ry’n ni’n ffeindio fe’n anodd, neith pethe ddim newid.

"Anabledd yw’r unig minority group ma’ unrhyw un ohonon ni’n gallu ymuno ag o ar unrhyw adeg yn ein bywydau.

"Mae ‘na 60% o siawns bod pobl yn mynd yn anabl yn eu bywydau; mae hynny’n enfawr.

"Felly dysgwch amdano, achos mae ‘na siawns fawr bod chi’n mynd i fod yn rhan o’r gymuned yma.

“Y peth mwya’ pwysig dwi wedi o wneud y rhaglen yw i beidio ymddiheuro am fod yn berson anabl.

"Dwi ddim angen help, dwi angen pethe i newid i fod bach yn wahanol, a fydda i byth eto’n ymddiheuro.

"Os ydi rhywun yn cynnig gwaith i fi a ‘ma nhw ddim yn gallu neud e’n hygyrch, yna ‘na i ddim neud y gwaith, a fi ddim yn mynd i deimlo’n euog amdnano, a fi ddim yn mynd i grio amdano byth eto, jest symud ymlaen.”