MAE dau actor ifanc o Feirionnydd yn serennu mewn cyfres ddrama iasoer newydd, sydd wedi’i seilio ar drafodaethau ar faterion sy’n bwysig i bobl ifanc Cymru, yn dechrau ar S4C ar 4 Mehefin 2025.

Mae Hafiach, sy’n ddrama ar gyfer pobl ifanc 13+, wedi’i lleoli yn ardaloedd Rhyl a Phrestatyn, ac yn cynnwys cast ifanc o dalent newydd.

Yn eu mhysg mae Sion Emlyn o Ddolgellau a Tomos Wynne o Flaenau Ffestiniog.

Mae hi’n stori gyfoes sy’n trafod ffoaduriaid a llofruddiaeth yn ogystal â phroblemau carwriaethol.

Cafodd y stori ei chreu yn seiliedig ar drafodaethau gyda phobl ifanc ar hyd a lled Cymru i ganfod y materion oedd yn bwysig iddyn nhw heddiw.

Cynhaliwyd dangosiad arbennig o bennod gyntaf y gyfres ddoe ar stondin S4C ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam.

Ymunodd aelodau’r cast ac Uwch Gynhyrchydd y gyfres, Llyr Morus, ar safle S4C i wylio’r bennod gyntaf, a chynhaliwyd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y dangosiad dan arweiniad y cyflwynydd Miriam Isaac.

Mae’r stori’n dechrau gyda dathliadau diwedd arholiadau TGAU a chriw o ffrindiau’n edrych ymlaen at haf o ryddid.

Ond mae’r hwyl yn troi’n hunllef pan fo corff bachgen 12 oed yn cael ei ganfod ar y traeth.

Hafiach
(Celf Calon)

Wrth i’r heddlu ddechrau ymchwiliad i lofruddiaeth, mae’r criw’n cael eu tynnu mewn i wirionedd trist a chudd am y digwyddiad trasig.

Mae wyth o bobl ifanc rhwng 16 a 23 oed yn ffurfio’r prif gast, a cawsant eu dewis o blith cannoedd fu’n rhan o weithdai meistr actio dan arweiniad yr actorion a chyflwynwyr Mali Harries a Shelley Rees.

Ymhlith y cast mae:

  • Dream Williams (Ela) o Ynys Môn, sy’n 16 oed
  • Siôn Emlyn (Lefi) 23 oed o Ddolgellau
  • Alis Williams 16 oed o Abertawe
  • Tomos Wynne (Noa) 18 oed o Flaenau Ffestiniog
  • Siriol Ousey (Kelsey) 18 oed o Rhyl
  • Adam Williams (Malik) 16 oed o Fae Penrhyn
  • Beca Williams (Jess) 16 oed o Ddinbych
  • Mohamad Ali Masri (Aabis) 23 oed o Abertawe

Fel nifer o aelodau eraill y cast, dyma rôl actio gyntaf Mohamad Ali Masri – neu Ali -sy’n chwarae rhan y ffoadur ifanc, Aabis yn y gyfres.

Mae profiadau personol Ali, sy’n ffoadur o’r Dwyrain Canol ei hun wedi bod o help iddo bortreadu’r cymeriad.

Yn wreiddiol o Syria, bu raid i Ali ffoi o’i famwlad ac mae wedi sefydlu bywyd newydd yn Abertawe ers 2019, ac erbyn hyn yn gweithio mewn bwyty yn y ddinas. Ond actio oedd ei freuddwyd erioed.

Meddai Ali: “Roedd chwarae'r rhan fel y profiad dwi wedi’i gael mewn bywyd go iawn, felly wnaeth hynny helpu’n fawr i bortreadu’r cymeriad. Dwi’n cofio pan ddes i draw yma gynta’ – doeddwn i ddim yn deall unrhyw Saesneg o gwbl, ac ro’n i’n ceisio deall beth oedd yn digwydd o hyd.

Hafiach
(Celf Calon)

“Mae’n beth mor anodd i ddechrau bywyd newydd ar ôl cyrraedd gwlad hollol newydd. Mae beth mae Aabis yn gorfod delio gyda yn y ddrama yn digwydd i bobl fel fi mewn bywyd go iawn.

“Roedd cael actio’n freuddwyd gen i, felly ddaeth hyn fel sypreis mawr, ond cyffrous. Mae wedi bod yn un o brofiadau gorau fy mywyd, ac roedd ‘na gefnogaeth dda i’w gael gan y tîm cynhyrchu.

“Efallai ei fod o’n ddechrau rhywbeth mwy!“Doeddwn i ddim wedi clywed llawer o Gymraeg cyn i mi ffilmio Hafiach yng ngogledd Cymru – roedd yn rywbeth newydd i fi.

“Mae’r holl beth wedi fy ysbrydoli i drio dysgu’r Gymraeg. Hwn oedd y tro cyntaf i mi ymweld â gogledd Cymru, a dwi wedi ymweld cwpwl o weithiau ers i ni orffen ffilmio.”

Mae’r ddrama wedi’i chreu gan gwmni cynhyrchu Vox Pictures, ac wedi’i hysgrifennu gan Gwenno Hughes, Anona Thomas, Siôn Eirug a Megan Angharad Hunter a’i chyfarwyddo gan Rhodri Jones, Mali Harries a Griff Lynch.

Mae hi wedi derbyn nawdd gan Cymru Greadigol, asiantaeth Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Wrth greu’r gyfres, roedd Llyr Morus, Uwch Gynhyrchydd Hafiach, yn awyddus i sicrhau bod y stori’n adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc heddiw: Wnaethon ni gynnal sesiynau mewn ysgolion ar draws Cymru yn holi pobl ifanc rhwng 12 ac 15 am eu pryderon a’r hyn roedden nhw’n eu gwylio.

“Dau bwnc a gododd ei ben yn gyson oedd mewnfudo – a’r straeon am bobl yn croesi’r sianel – ac argyfwng yr hinsawdd.

“Roedd hynny’n fan cychwyn i greu stori berthnasol, bwerus a chyfoes.”

Meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C: Roedd hi'n hyfryd cael bod yn rhan o lansiad Hafiach ar faes Eisteddfod yr Urdd a gweld gymaint yn mwynhau gwylio. Mae hon yn ddrama bwysig i ni ar gyfer pobl ifanc 13+ a gobeithio gwelwn ni fwy o gomisiynau ar gyfer yr oedran hwn yn y dyfodol.”

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant: "Hoffwn ganmol Vox Pictures am fynd ati i wneud ymchwil i'r materion pwysig sy'n pryderu ein cenhedlaeth iau, cyn mynd ymlaen i ddweud stori mor bersonol am sut mae'n teimlo i wynebu'r anawsterau amhosib i’w dychmygu o orfod gadael eich gwlad fel ffoadur o ganlyniad i ryfel.

"Mae hwn yn ddarn pwysig ac unigryw o deledu a gomisiynwyd gan S4C sydd wedi'i greu i gyrraedd cynulleidfaoedd iau Cymru. Rwy’n falch bod Cymru Greadigol wedi medru cefnogi'r cynhyrchiad a helpu i ddod â Hafiach i'n sgriniau, gan greu cyfleoedd hyfforddiant i bobl sy’n byw yn lleol."

Mae Hafiach ymlaen ar S4C ar 4 Mehefin am 20:25. Bydd bocset o’r gyfres ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer o 4 Mehefin.